Mae gennym ni i gyd iechyd meddwl, yn union fel y mae gennym ni i gyd iechyd corfforol, ond weithiau mae pobl yn blaenoriaethu eu hiechyd corfforol dros eu hiechyd meddwl.
Ar 10 Hydref, cafodd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ei ddathlu ar draws y byd, a bu’n gyfle gwych i annog trafodaethau gonest ac agored am iechyd meddwl – sy’n arbennig o bwysig i’r rheini a all fod yn profi meddyliau a theimladau hunanladdol.