Pam y dylai cwmnïau corfforaethol fuddsoddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl

Mae pandemig COVID-19 wedi gadael effaith ar ein bywydau, yn enwedig o ran materion iechyd meddwl. O ganlyniad, mae dychwelyd i “normalrwydd” a dychwelyd i lefydd fel y swyddfa yn llawn amser wedi bod yn heriol i rai. O safbwynt cyflogwyr, gall fod yn anodd ceisio cydbwyso’r galw cynyddol gan gwsmeriaid a chleientiaid â llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr.

Felly, beth y gall cwmnïau ei wneud i helpu gweithwyr a all fod yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl yn sgil pandemig COVID-19? Bydd buddsoddi mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl yn sicrhau bod llesiant ac iechyd meddwl eich gweithwyr yn cael sylw ac yn cael eu cynnal yn ystod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd corfforaethol.

 

Llesiant ac iechyd meddwl ar ôl y pandemig

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedden ni i gyd wedi teimlo’n orbryderus neu’n isel ar ryw adeg yn ein bywydau.

Fodd bynnag, canfu adroddiad gan yr UK Household Longitudinal Study (UKHLS) , yn ystod cyfnodau brig y pandemig ac wrth i gyfyngiadau’r llywodraeth dynhau, y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion dros 18 oed a oedd yn profi lefelau clinigol o drallod seicolegol..

Yn ogystal â hyn, canfu’r elusen Mind fod 65% o’r oedolion a holwyd ganddynt, a oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl, yn dweud bod eu llesiant wedi gwaethygu ers dechrau’r pandemig. Canfuwyd mai teimladau o unigrwydd a diffyg cyswllt personol oedd yn cyfrannu fwyaf at y lleihad yn llesiant pobl.

Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos ein bod yn dychwelyd i’n ffyrdd o fyw cyn y pandemig, nid yw hyn yn golygu nad yw’r rhai a oedd yn dioddef yn parhau i ddioddef o hyd. Mae cynnal eich llesiant eich hun a llesiant eich gweithwyr ar ôl y pandemig yr un mor bwysig ag yr oedd yn ystod y pandemig.

 

Y Risgiau o anwybyddu iechyd meddwl gweithwyr

Efallai eich bod yn pendroni pam mae gofalu am lesiant ac iechyd meddwl eich gweithwyr mor bwysig. Wel, yn yr un modd ag anwybyddu unrhyw broblem o ran iechyd, boed hynny’n broblem gorfforol neu seicolegol, mae canlyniadau yn sicr o ddilyn a fydd yn effeithio’n fawr ar y person sy’n dioddef.

Dyma ychydig o’r symptomau a’r profiadau yn unig o anwybyddu eich llesiant:

  • Poen corfforol
  • Perthnasoedd yn chwalu
  • Dirywiad mewn iechyd a llesiant
  • Blinder a diffyg cymhelliant
  • Problemau yn ymwneud â gyrfa neu waith

 

Dyma’r gwirioneddau llym a dyna pam ei bod yn werth chweil ac yr argymhellir yn fawr eich bod yn buddsoddi yn eich polisïau, eich prosesau a’ch hyfforddiant mewn perthynas â llesiant ac iechyd meddwl. Gallai anwybyddu’r elfennau hyn, yn eu tro, effeithio’n negyddol ar eich busnes mewn nifer o ffyrdd:

  • Mwy o absenoldebau
  • Gostyngiad posibl mewn ansawdd gwaith
  • Diffyg morâl o fewn y cwmni ac ymhlith gweithwyr
  • Anawsterau o ran cadw gweithwyr

 

Nid yn unig y mae buddsoddi yn llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr yn osgoi’r effeithiau negyddol a restrir uchod, ond mae hefyd yn sicrhau bod y busnes yn gofalu am ei weithwyr a’u bod yn teimlo bod y gweithle’n gallu bod yn rhywle diogel.

 

Manteision cymorth cyntaf iechyd meddwl

Mae’r person cyffredin yn treulio tua thraean o’i fywyd yn y gwaith, felly mae’n bwysig iawn gwneud i’ch cwmni deimlo’n groesawgar ac yn agored i drafodaethau am lesiant ac iechyd meddwl, a gallwn ni helpu gyda hyn.

Yma Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru, ein gweledigaeth yw datblygu a darparu ymchwil o ansawdd uchel a hyfforddiant iechyd meddwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i gyd er mwyn gwella iechyd meddwl y genedl. Yn ogystal â’n cyrsiau hyfforddiant, rydym hefyd yn cynnig y canlynol:

  • Eiriolaeth annibynnol o ansawdd uchel
  • Cwnsela
  • Gwasanaeth Cynrychiolwyr Personau Perthnasol
  • Gwasanaeth Cyfaill Cyfreitha

 

Mae ein gwasanaethau yn helpu i godi ymwybyddiaeth o lesiant ac iechyd meddwl mewn amgylcheddau fel swyddfeydd corfforaethol. Rydym hefyd yn cynyddu gwybodaeth, sgiliau a hyder ein hyfforddeion er mwyn eu galluogi i gamu i mewn i sefyllfaoedd ac adnabod arwyddion o lesiant neu iechyd meddwl gwael.

Rydym am drawsnewid sut mae gweithleoedd yn meddwl am faterion llesiant ac iechyd meddwl ymhlith eu gweithwyr ac yn ymdrin â nhw. Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, ond eto dim ond 12% o oedolion yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio triniaeth iechyd meddwl os ydynt yn dioddef ohono. Pe baech wedi torri braich neu pe bai eich ffêr wedi chwyddo, byddech yn mynd i’r ysbyty neu’n ymweld â’ch meddyg teulu lleol, ond nid yw llawer o bobl yn trin eu hiechyd meddwl yn yr un ffordd, ac rydym am newid hyn.

Credwn mai hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yw’r ateb er mwyn newid y stigma hwn. Bydd defnyddio hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle yn sicrhau bod eich gweithwyr yn gwybod bod yr opsiwn a’r cyfle yno iddynt siarad â rhywun os oes angen cymorth arnynt. Yn ystod ein hanes 12 mlynedd, rydym wedi gweithio gyda miloedd o gwmnïau ar draws y Deyrnas Unedig, o fusnesau bach i gorfforaethau mawr, fel MoneySuperMarket, Deloitte a Principality. Mae’r cwmnïau hyn wedi gweld a phrofi’r buddion sy’n deillio o fuddsoddi yn llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr – o gynhyrchiant uwch ac ansawdd gwaith gwell i welliannau o ran iechyd a hapusrwydd gweithwyr. Yn dilyn o hyn, drwy fuddsoddi yn llesiant ac iechyd meddwl eich gweithwyr, bydd effeithiau cadarnhaol y weithred hon yn cyrraedd teuluoedd a ffrindiau’r gweithwyr, cleientiaid, cwsmeriaid, a phawb y maent yn rhyngweithio â nhw. Rydyn ni’n credu mai canolbwyntio ar lesiant ac iechyd meddwl yw’r dyfodol ym maes datblygu busnes, a gall greu effaith sylweddol ar weithleoedd corfforaethol a’u diwylliant.

 

Sut i gael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl

Mae buddsoddi mewn hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn un o’r ffyrdd gorau o sicrhau bod llesiant ac iechyd meddwl eich gweithwyr yn cael eu cynnal i lefel uchel. Rydym yn parhau i ddangos i gwmnïau y gall busnes llwyddiannus hefyd fod yn un hapus, iach a chynhyrchiol.

Mae hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn hanfodol i roi’r sgiliau, y ddealltwriaeth a’r hyder i bobl ymdrin â’r materion llesiant ac iechyd meddwl yr ydym yn debygol iawn o ddod ar eu traws yn bersonol ac yn broffesiynol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn benderfynol o herio stigma a grymuso pobl i gynorthwyo’r rheini sydd angen cymorth drwy ddefnyddio addysg ynghylch llesiant ac iechyd meddwl.

I ddarganfod mwy amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedig, ewch i’n gwefan a buddsoddwch yn llesiant ac iechyd meddwl eich gweithwyr.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop