Sut y gall rhieni feithrin gwytnwch a gofyn am gymorth gyda’u hiechyd meddwl

Mae dod yn rhiant yn gyfnod cyffrous gyda llawer o atgofion gwych; hebrwng y plantos i’r ysgol ar eu diwrnod cyntaf, eu dysgu i reidio beic, dathlu eu campau, mae’r rhestr yn hirfaith. Ond fel popeth da, mae heriau a chyfrifoldebau penodol ynghlwm wrth bod yn rhiant hefyd.

Gall y cyfrifoldebau hyn gynnwys sicrhau eich bod yn darparu bwyd a dillad i’ch plentyn, ei gadw’n gynnes ac yn hapus, a hefyd cynnal a gofalu am ei hiechyd meddwl a’i lesiant. Fodd bynnag, mae angen i rieni gofio hefyd bod eu hiechyd meddwl hwythau yr un mor bwysig, a gall meithrin gwytnwch teuluol helpu i leddfu’r pwysau o ofalu am gartref cyfan.

 

Diwrnod Iechyd Meddwl Rhieni

Diwrnod Iechyd Meddwl Rhieni (PMHD) yn 2022 gan yr elusen stem4. Yn nodweddiadol, mae’r elusen yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc ynghyd ag iechyd meddwl a llesiant y bobl hynny sy’n eu cynnal, fel teuluoedd a gofalwyr, yn ogystal â gweithwyr addysg proffesiynol, nyrsys ysgol a meddygon teulu.

Mae pawb o fewn teulu yn dibynnu ar ei gilydd ond, wrth gwrs, mae plant a phobl ifanc yn dibynnu hyd yn oed yn fwy ar oedolion am eu cymorth a’u harweiniad. Fel rhiant, mae’n hawdd gadael i’ch iechyd meddwl lithro wrth i chi ofalu am y rheini o’ch cwmpas, ond nod Diwrnod Iechyd Meddwl Rhieni yw codi ymwybyddiaeth er mwyn dangos i rieni a gofalwyr nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain a bod eu hiechyd meddwl hwythau yn bwysig.

Yng ngoleuni’r nod hwn, thema Diwrnod Iechyd Meddwl Rhieni eleni yw #MeithrinGwytnwchTeuluol (#BuildFamilyResilience), a fydd yn helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu sut i addasu i sefyllfaoedd heriol, rheoli eu teimladau a’u hemosiynau eu hunain, a gwybod ble y gallant ddod o hyd i gymorth. Ond beth yn union yw gwytnwch?

Gellir diffinio gwytnwch fel y gallu i wella’n gyflym ar ôl heriau a dychwelyd i gyflwr cadarnhaol. Ond gall amseroedd arbennig o galed ei gwneud yn anodd cael eich sbonc yn ôl yn gyflym, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn gyda’r Nadolig a chostau byw cynyddol yn achosi gofid a straen ariannol. Gall misoedd y gaeaf hefyd achosi hwyliau isel neu hyd yn oed anhwylder affeithiol tymhorol (SAD) i rai, ac yn gyffredinol gall teimlo’n gynyddol ynysig ac unig gael effaith bellach.

Mae nawr, yn fwy nag erioed, yn gyfnod anodd i unrhyw un sy’n dioddef gyda’i iechyd meddwl, heb sôn am rieni sy’n rhoi iechyd meddwl pobl eraill o flaen eu hiechyd meddwl eu hunain. Bydd #MeithrinGwytnwchTeuluol (#BuildFamilyResilience) yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut i wynebu heriau ac anawsterau, p’un a yw hynny’n unigol neu ar y cyd fel uned deuluol. Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi rhieni a gofalwyr i ganolbwyntio ar fwy o gyfleoedd i reoleiddio iechyd meddwl a llesiant y system deuluol gyfan, boed hynny drwy ddarparu sefydlogrwydd, ymlyniadau cadarnhaol, neu addasu i golled ac adfyd gyda’i gilydd.

 

Rhianta gyda phroblemau iechyd meddwl

Er mai dim ond am yr eildro rydyn ni’n dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl Rhieni yn 2023, mae’n ddiwrnod ymwybyddiaeth pwysig iawn gan ei fod yn helpu i chwalu’r stigma y mae rhieni’n ei deimlo ynghylch rhoi blaenoriaeth i’w hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain.

Pan nad yw eich meddylfryd yn bositif mae popeth yn ymddangos fel brwydr, heb sôn am ofalu am lesiant eich plant stem4 conducted a survey . I sbarduno Diwrnod Iechyd Meddwl Rhieni y llynedd, cynhaliodd stem4 arolwg gyda rhieni a gofalwyr a gofynnodd iddynt am eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Mae problemau byd-eang a chenedlaethol fel COVID-19 a chostau byw cynyddol yn ffactorau straen mawr a all achosi llawer iawn o gorbryder, ansicrwydd a hyd yn oed iselder. Canfu stem4, ar ôl y pandemig, fod 39% o rieni wedi wynebu problemau iechyd meddwl, y mae 37% ohonynt yn fenywod a 41% yn ddynion, sy’n gynnydd o 9% ers y cyfnod cyn y pandemig. O’r rhieni hynny sy’n wynebu afiechyd meddwl, dywed 44% nad ydynt wedi gofyn am help, a gall hyn fod am nifer o resymau, gan gynnwys y canlynol:

  • Teimlo cywilydd neu embaras
  • Ddim eisiau achosi helynt na chynhyrfu eu teulu
  • Meddwl y byddant yn cael eu hystyried yn llai o berson
  • Meddwl na fydd cymorth ar gael iddynt

 

Er y gall yr emosiynau a’r teimladau hyn fod yn pwyso ar rieni, mae’n hanfodol nad ydyn nhw’n cadw’r pwysau hwn iddyn nhw eu hunain, p’un a ydyn nhw’n ceisio cymorth proffesiynol neu’n gweithio trwy’r teimladau hyn yn unigol neu gyda’u teulu. Mae’r canlynol yn ffyrdd o leddfu teimladau o straen a gorbryder:

  • Mynd allan, boed hynny’n golygu mynd am dro, gwneud ychydig o ymarfer corff neu hyd yn oed mynd i’r siopau, bydd ychydig o awyr iach yn eich helpu i deimlo’n well
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg fel y gall eich ymennydd brosesu’r diwrnod a gwneud lle i’r un nesaf
  • Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a fydd yn eich cadw yn y funud ac yn helpu i’ch atal rhag gorfeddwl am bethau.
  • Cysylltu â’ch teulu a ffrindiau ac adeiladu cylch cymorth a fydd ar gael ichi os bydd arnoch chi eu hangen.

 

Mae gan stem4 nifer o adnoddau gwych hefyd ar gyfer #MeithrinGwytnwchTeuluol ac mae hefyd yn cynnal gweminar ar sut i fod yn rhiant neu ofalwr gwydn a sut i archwilio’r effeithiau cadarnhaol y caiff hyn ar yr uned deuluol. webinar on how to be a resilient parent or carer and explore the positive impacts this will have on the family unit.

Rhaid i rieni gofio nad ydynt yn anobeithiol nac yn ddigymorth a bod rhywun bob amser, boed hwnnw’n aelod o’r teulu, yn ffrind, neu’n ddarparwr gofal iechyd a all eu cynorthwyo a’u tywys trwy gyfnodau heriol; yn yr un modd ag y mae rhieni yn cynorthwyo eu plant.

Ffordd arall y gall rhieni helpu iechyd meddwl eu plant a phobl ifanc eraill yw trwy ddod yn berson cymorth cyntaf iechyd meddwl. Yma yn MHFA Cymru, rydym yn cynnig cwrs Iechyd Meddwl Ieuenctid Gall hwn ddysgu oedolion fel rhieni, gofalwyr, athrawon, gweithwyr ieuenctid a hyfforddwyr sydd mewn cysylltiad â phobl ifanc sut i sylwi pan fydd problemau’n codi a beth y gallan nhw ei wneud i’w cynorthwyo orau.

I ddarganfod mwy amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedigewch i’n gwefan , ewch i’n gwefan a buddsoddwch yn eich llesiant a’ch iechyd meddwl chi ac yn llesiant ac iechyd meddwl y rheini o’ch cwmpas.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop