Galar: Teimlad a all fod yn wahanol iawn gan ddibynnu ar bwy sy'n ei brofi. Gallai dau berson fod yn galaru'r un golled ond eto'n ymateb iddi’n hollol wahanol.
Mae gennym ni i gyd iechyd meddwl, yn union fel y mae gennym ni i gyd iechyd corfforol, ond weithiau mae pobl yn blaenoriaethu eu hiechyd corfforol dros eu hiechyd meddwl.
Ar 10 Hydref, cafodd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ei ddathlu ar draws y byd, a bu’n gyfle gwych i annog trafodaethau gonest ac agored am iechyd meddwl – sy’n arbennig o bwysig i’r rheini a all fod yn profi meddyliau a theimladau hunanladdol.