Yr hyn rydym yn ei wneud

Ni sy'n dal y drwydded ar gyfer Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru ac yn hyfforddi, trwyddedu a chefnogi'n uniongyrchol yr holl hyfforddwyr sy'n darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl yng Nghymru.

Pam hyfforddi gyda ni?

Fel deiliad trwydded Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru, rydym yn sicrhau bod yr holl hyfforddiant rydym yn ei ddatblygu a’i ddarparu o’r ansawdd uchaf. Gallwn warantu hyfforddiant diogel, deniadol sy'n gallu cael ei addasu ar gyfer unrhyw un sydd ei angen.

Mae MHFA Cymru yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant iechyd meddwl o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth.

Ni sy'n dal y drwydded ar gyfer Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru ac yn hyfforddi, trwyddedu a chefnogi'n uniongyrchol yr holl hyfforddwyr sy'n darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl yng Nghymru.

Yn ogystal â chynnig nifer o gyrsiau hyfforddi sy’n cefnogi llesiant ein cymunedau, rydym yn darparu:

Mae hyfforddiant yn hanfodol i sicrhau bod gan bobl yr adnoddau, y ddealltwriaeth a'r hyder i ddelio â phob math o broblemau iechyd meddwl a llesiant.

O ystyried yr hinsawdd bresennol yn y DU o ran iechyd meddwl, mae bron yn sicr y byddwn yn dod ar draws materion fel hyn ar lefel bersonol ac ar lefel broffesiynol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn benderfynol o herio stigma a grymuso pobl i gefnogi’r rhai sydd ei angen trwy addysg a chael gwared ar yr ofn o siarad yn agored am iechyd meddwl.

Mae MHFA Cymru yn is-gwmni masnachu sy’n eiddo llwyr i Mind Torfaen a Blaenau Gwent, elusen gofrestredig sydd wedi’i lleoli yng Nghymru.

Fel deiliaid trwydded y rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru ers 2016, rhaglen a gydnabyddir yn rhyngwladol, rydym wedi ein sefydlu i sicrhau cynaliadwyedd Mind Torfaen a Blaenau Gwent. Nod y ddau sefydliad yw darparu gwasanaethau sy’n cefnogi llesiant unigolion a chymunedau ledled Cymru.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop