Telerau ac Amodau

Telerau ac amodau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) (f1.1 9.6.21)

Mae’r telerau a’r amodau hyn yn ymwneud ag unrhyw gyrsiau a digwyddiadau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a gynhelir ar neu ar ôl 9 Mehefin 2021.

Mae’r ddogfen hon yn dweud wrthych chi (“chi” yw’r parti sy’n contractio gyda Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ar gyfer cyrsiau, gwasanaethau, deunyddiau neu gyngor) ar ba delerau ac amodau yr ydym ni (mae “ni”, neu “MHFA Cymru” yn golygu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)) yn cyflenwi’r (“gwasanaethau”) a grybwyllwyd uchod. Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus cyn archebu neu ddefnyddio unrhyw wasanaethau ar ein gwefan. Dylech ddeall, drwy archebu neu ddefnyddio unrhyw wasanaethau, eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a’r amodau hyn. Dylech gadw copi o'r telerau a’r amodau hyn er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.

1. Eiddo deallusol

Mae'r holl ddeunyddiau (“deunyddiau MHFA Cymru”) a ddarperir gennym ni, gan gynnwys graffeg, cynhyrchion testun, dylunio, fideo a sain yn eiddo i MHFA Cymru dan drwydded gan MHFA International. Ni chaniateir i unrhyw gynnwys, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, o ddeunyddiau MHFA Cymru gael ei gopïo, ei atgynhyrchu, ei lanlwytho, ei bostio, ei arddangos, ei gysylltu iddo neu ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan MHFA Cymru. Mae unrhyw ddefnydd o’r fath wedi’i wahardd yn llym a bydd yn gyfystyr â thorri’r telerau a’r amodau hyn a hawliau eiddo deallusol eraill MHFA Cymru neu, yn achos deunyddiau sydd wedi’u trwyddedu i MHFA Cymru, berchennog deunyddiau o’r fath.

2. Cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn cyfeirio at unrhyw gyswllt rhyngoch chi a ni, boed yn bersonol, yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu drwy ddulliau electronig. Wrth ddefnyddio'r wefan, rydych yn derbyn y bydd cyfathrebu â ni yn electronig yn bennaf. Mae cyfathrebu electronig yn golygu y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost.

3. Disgrifiad a phrisiau

Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y prisiau a restrir yn gywir, mae’n bosibl y gwneir camgymeriadau weithiau. Os canfyddir camgymeriad prisio yn y gwasanaethau yr ydych wedi'u harchebu cyn cadarnhau'r archeb, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn rhoi'r opsiwn i chi naill ai ail-gadarnhau eich archeb am y pris cywir neu ganslo'ch archeb. Os canfyddir camgymeriad ac na allwn gysylltu â chi neu na fyddwn yn derbyn ateb gennych, bydd eich archeb yn cael ei ganslo. Mae MHFA Cymru yn cadw'r hawl i newid prisiau a restrir yn ddirybudd. Mae MHFA Cymru hefyd yn cadw'r hawl i wrthod darparu gwasanaethau i unrhyw unigolyn neu gwmni.

4. Archebu gwasanaethau

Gellir prynu gwasanaethau a ddarperir gan MHFA Cymru drwy’r “wefan” (sef www.mhfawales.org) neu drwy gysylltu â’r tîm perthnasol. Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer pob tîm penodol ar gael ar y wefan, ynghyd â gwybodaeth gyswllt safonol ar gyfer Prif Swyddfa MHFA Cymru. Gellir archebu a thalu am rai gwasanaethau drwy'r wefan yn uniongyrchol.

5. Archebu trwy drydydd parti

Wrth archebu trwy frocer, mae llawer o rwymedigaethau cytundebol gyda'r brocer ac nid gydag MHFA Cymru. Bydd yr holl ohebiaeth a thaliadau rhyngoch chi a'r brocer. Byddwch yn dal i fod yn ddarostyngedig i gymal (1) yn y ddogfen hon.

6. Sut i dalu

Os ydych yn archebu drwy’r wefan, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd neu drwy ofyn am anfoneb. Mae'r opsiynau hyn ar gael ar ddiwedd adran ddesg dalu'r wefan. Pan ofynnir am anfoneb, caiff ei hanfon mewn e-bost atoch chi a ni pan fydd y ddesg dalu wedi'i chwblhau. Nid yw anfoneb yn gadarnhad o'ch archeb nes bod taliad wedi'i wneud. Byddwn yn eich hysbysu pan fydd eich cais archebu wedi'i gadarnhau ar ôl talu.

Mae Stripe Inc. yn trin ein trafodion cardiau credyd a debyd ar-lein yn ddiogel. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan:https://stripe.com/gb

Os ydych yn talu drwy anfoneb, bydd angen cyfeirio'r anfoneb at y cwsmer neu at gyflogwr y cwsmer. Rhaid talu o fewn 21 o ddiwrnodau i gyhoeddi'r anfoneb, neu os gwneir yr archeb lai na 21 o ddiwrnodau cyn i'r gwasanaeth ddechrau, bydd angen talu o leiaf 11 o ddiwrnodau cyn i'r gwasanaethau ddechrau.

Ar gyfer archebion a wneir heblaw drwy'r wefan, gellir talu yn y ffyrdd canlynol:

  • Cerdyn credyd;
  • Cerdyn debyd;
  • Trosglwyddiad banc uniongyrchol i gyfrif banc MHFA Cymru, y ceir manylion amdano yng Nghymal 14;
  • Arian parod;
  • Sieciau'n daladwy i MHFA Cymru;

Rydym hefyd ond yn derbyn taliadau mewn Punnoedd Sterling (y DU).

Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os hoffech dalu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol i sicrhau bod eich archeb yn cael ei chadarnhau yn gyflym.

Os na wneir taliad o leiaf 11 o ddiwrnodau cyn i wasanaethau ddechrau, mae MHFA Cymru yn cadw’r hawl i wrthod gwasanaethau nes bod taliad llawn wedi’i wneud.

7. Canslo

Mae MHFA yn cadw'r hawl i newid neu ganslo unrhyw wasanaethau, amseroedd gwasanaethau, dyddiadau neu brisiau cyhoeddedig. Bydd unrhyw newidiadau i amseroedd, dyddiadau a phrisiau yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl cyn y dyddiad cychwyn ac ni fydd unrhyw wasanaethau y talwyd amdanynt yn llawn eisoes yn destun y newid mewn pris. Cyfrifoldeb y cwsmer yn gyfan gwbl yw unrhyw gostau teithio, llety neu gynhaliaeth (gan gynnwys costau achlysurol e.e. maes parcio). Gan ei bod yn annhebygol y bydd gwasanaethau’n cael eu canslo, mae’r uchod yn dal yn wir ac nid yw MHFA Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ad-dalu unrhyw gostau o gwbl mewn perthynas â’i wasanaethau. Pan fo gwasanaethau wedi'u canslo gan MHFA Cymru, bydd cwsmeriaid yn cael cynnig dyddiad arall ar gyfer yr un gwasanaeth neu ad-daliad.

Pan fo gwasanaethau wedi'u canslo gan y cwsmer yn ddiweddarach, y cwsmer fydd yn atebol am y taliadau isod. Sylwer: Rhaid i bob achos o ganslo fod yn ysgrifenedig.

Y cyfnod amser cyn dyddiad cychwyn y gwasanaethau y mae’r canslad yn cael ei wneudY tâl a godir ar y cwsmer
O fewn 5 diwrnod gwaith neu ar ôl dechrau'r hyfforddiant100% o gyfanswm y gost
O fewn 6-10 diwrnod gwaith75% o gyfanswm y gost
O fewn 11-20 diwrnod gwaith50% o gyfanswm y gost
Dros 21 o ddiwrnodau gwaithDim tâl

8. Aildrefnu

Pan fo cwsmer wedi gwneud cais i aildrefnu gwasanaethau y mae wedi derbyn cadarnhad ei fod wedi archebu lle ar eu cyfer, bydd MHFA Cymru yn darparu ar ei gyfer mor agos at y dyddiad(au) y gofynnwyd amdanynt â phosibl. Dylid cyflwyno pob cais i aildrefnu gwasanaethau yn ysgrifenedig o leiaf 11 o ddiwrnodau gwaith cyn y disgwylir i wasanaethau ddechrau.

9. Ad-daliadau

Os byddwch yn penderfynu arfer eich hawl i ganslo eich archeb, bydd MHFA Cymru yn ad-dalu ffioedd a dalwyd yn unol â’r polisi canslo uchod. Bydd ad-daliadau yn cael eu gwneud i'r un cerdyn neu gyfrif y derbyniwyd taliad oddi wrtho.

10. TAW a thaliadau cerdyn

Mae'r ffioedd a ddyfynnir yn cynnwys TAW. Bydd anfonebau yn dangos dadansoddiad o gostau heb gynnwys TAW ac yn cynnwys TAW. Ni chodir ffioedd am dalu â chardiau debyd neu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol. O 13 Ionawr 2018 ymlaen, ni chodir unrhyw ffi am daliad a wneir â chardiau credyd.

11. Anghenion penodol

Nod MHFA Cymru yw sicrhau bod ei wasanaethau yn hygyrch i bawb. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion. Cyfrifoldeb cwsmeriaid yw hysbysu MHFA Cymru am unrhyw anghenion neu ofynion penodol a all fod ganddynt mor agos â phosibl at yr amser archebu.

12. Cwynion

Yn MHFA Cymru rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon uchel o ofal cwsmeriaid. Os nad ydych yn hapus ag unrhyw elfen o’r gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn gan unrhyw gyflogai neu unrhyw berson sy’n gysylltiedig ag MHFA Cymru, cysylltwch â’r cyfarwyddwr ar 01495 707360 neu anfonwch e-bost at director@mhfawales.org

Mae copi o'n polisi cwynion ar gael ar gais.

13. Datganiad diogelu data

Mae MHFA Cymru wedi’i gofrestru o dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data’r DU 2018, ac o 25 Mai 2018 ymlaen, mae’n ddarostyngedig i’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae MHFA Cymru yn cadw unrhyw ddata personol amdanoch yn gyfrinachol. Mae Polisi Preifatrwydd MHFA Cymru ar gael ar y wefan yn www.mhfawales.org/privacy-policy/ 

14. Manylion banc MHFA Cymru

Enw’r banc: Lloyds Bank

Cyfeiriad: 1 Sgwâr Gwent, Cwmbrân, NP44 1XN

Cod didoli: 30 – 92 – 49

Rhif y cyfrif: 23690668

Enw'r cyfrif: MHFA Wales

Anfonwch e-bost yn cynnwys copi o'ch derbynneb banc i gyfeiriad e-bost ein hadran Cyfrifon (accounts@mhfawales.org), gan sicrhau eich bod yn nodi eich enw llawn a manylion angenrheidiol y gwasanaethau a archebwyd.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop