• Welcome to Mental Health First Aid Wales
  • Mental Health First Aid Wales

    Rhan o Rwydwaith Byd-eang

    Wedi'i gynrychioli gan rwydwaith rhyngwladol o Ddarparwyr Trwyddedig annibynnol sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu hyfforddiant ac addysg cymorth cyntaf iechyd meddwl ymarferol. Mae ganddynt dros 50,000 o hyfforddwyr rhyngddynt ac maent wedi darparu hyfforddiant i dros bedair miliwn o bobl ar draws 26 o wledydd, sydd wedi ymuno â'r mudiad byd-eang o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.

    Darllenwch fwy
  • Hyfforddiant


    Mae hyfforddiant yn hanfodol i sicrhau bod gan bobl yr adnoddau, y ddealltwriaeth a'r hyder i ddelio â phob math o broblemau iechyd meddwl a llesiant. O ystyried yr hinsawdd bresennol yn y DU o ran iechyd meddwl, mae bron yn sicr y byddwn yn dod ar draws materion fel hyn ar lefel bersonol ac ar lefel broffesiynol.


    Gweld Hyfforddiant

    Cwnsela


    Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru yn cynnig sesiynau cwnsela preifat i unigolion a thrwy Raglenni Cymorth Gweithwyr. Gall sesiynau fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo Zoom.


    Gweld Gwasanaethau

    Eiriolaeth


    Diffinnir eiriolaeth fel cymryd camau i helpu pobl i ddweud yr hyn y maent ei eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae eiriolwyr a darparwyr eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r bobl y maent yn eu cefnogi ac yn cymryd eu hochr. Mae eiriolaeth yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.


    Gweld Gwasanaethau
  • Amdanom ni

    Mae MHFA Cymru yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant iechyd meddwl o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth. Ni sy'n dal y drwydded ar gyfer Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru ac yn hyfforddi, trwyddedu a chefnogi'n uniongyrchol yr holl hyfforddwyr sy'n darparu cymorth cyntaf iechyd meddwl yng Nghymru.

    261

    Hyfforddwyr

    14514

    Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

    2016

    Sefydlwyd

  • Gweld Adolygiadau
  • cy
    0
      0
      Your Basket
      Your basket is emptyReturn to Shop