Galar. Teimlad a all fod yn wahanol iawn gan ddibynnu ar bwy sy'n ei brofi. Gallai dau berson fod yn galaru'r un golled ond eto'n ymateb iddi yn hollol wahanol. I rai, maen nhw'n wynebu galar ar unwaith ac yn ddwys ar ôl colli rhywun. I eraill, mae'n llechu ac yn cuddio ac yn dod i’r amlwg fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd ar ôl colli rhywun neu rywbeth. Oherwydd y ceir galaru o bob lliw a llun, gellir chwilio am wahanol ffyrdd o helpu i ymdopi â cholled. Efallai y bydd rhai pobl yn cael cysur o rannu atgofion am rywbeth / rhywun a gollwyd, tra gallai fod yn well gan eraill beidio â sôn am eu hatgofion. Mae’n bosibl y bydd rhai’n gweld bod crio yn eu helpu i ymdopi â’u colled ac efallai y bydd eraill yn ceisio pethau sy’n tynnu eu sylw mewn ffordd iach, fel dechrau hobi neu weithgaredd newydd.
Gall colled deimlo'n hynod aflonyddol, yn enwedig pan mai anwylyn a gollwyd. Wrth i chi geisio llywio byd newydd a brawychus hebddynt, efallai y byddwch yn chwilio am ffyrdd i helpu i'r boen deimlo'n llai llethol. Efallai na fydd diwrnod rhyngwladol o gefnogaeth yn cael gwared ar y boen, ond fe allai helpu i godi gorchudd galar, hyd yn oed am gyfnod byr, gan ddatgelu cymuned o gefnogaeth, gobaith a myfyrdod. Mae’r #DiwrnodCenedlaetholoFyfyrdod, sy'n dathlu ei drydedd flwyddyn ar 23 Mawrth, yn “gyfle i gofio ein hanwyliaid sydd wedi marw, cefnogi pobl sy'n galaru, a chysylltu gyda'n gilydd.”.rd, is “an opportunity to remember our loved ones who’ve died, support people who are grieving, and connect with each other.”
Beth yw galar?
Mae galar yn ymateb i golled ac i'r teimladau a'r emosiynau a adewir ar ôl wedi i chi brofi'r golled honno. Fel galar, gall colled fod o bob lliw a llun. Y ffurfiau mwyaf amlwg yw’r golled a brofir wrth golli anwylyn ac ar ôl i berthynas ddod i ben. Gall mathau eraill o golled gynnwys pan gollir gallu corfforol, pan fo rhywun yn eich bywyd yn profi salwch difrifol, pan gollir sefydlogrwydd ariannol a phan brofir newid mewn amgylchiadau byw.
Er bod galaru yn aml yn wahanol i bwy bynnag sy'n ei brofi, mae nifer o bethau cyffredin y gellir eu teimlo wrth wynebu colled. Mae rhai o'r teimladau a symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys y canlynol: most common feelings and symptoms include:
- Tristwch neu iselder
- Dicter
- Gwadu
- Rhyddhad
- Dryswch
- Diffyg teimlad
- A chyflwr cyffredinol o fod wedi’ch llethu
Gall colled fod yn un o'r pethau mwyaf heriol i'w llywio mewn bywyd. Gall colli anwylyn, yn enwedig, deimlo fel rhywbeth hynod o unig, personol, a bod yn brawf o bopeth yr ydych. Mae ymchwil wedi nodi bod 5-10% o blant a phobl ifanc yn y glasoed sydd wedi colli anwylyn yn profi iselder, PTSD (anhwylder straen wedi trawma), a/neu anhwylder galar estynedig yn dilyn profedigaeth. A dweud hynny, yn achos llawer o bobl, mae symptomau sy'n gysylltiedig â galar yn dilyn marwolaeth anwylyn yn tueddu i leihau dros amser ac, yn y pen draw, gallant fod yn haws eu rheoli.
Beth yw’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod?
Wedi’i drefnu gan Marie Curie, cychwynnwyd y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod cyntaf yn y DU ar 23 Mawrth 2021, ac fe'i trefnwyd i gofio'r bobl hynny a gollwyd i COVID-19 a’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd. Penderfynwyd nodi mai ar 23 Mawrth y caiff y diwrnod ei gynnal gan mai hwn oedd diwrnod cyntaf y cyfnod clo yn y DU yn ystod 2020. Wrth inni symud ymlaen o’r cyfnodau clo a’r cyfyngiadau, mae’r diwrnod yn parhau i fod yn gyfle i fyfyrio ar y bobl hynny yr ydym wedi’u colli ar hyd y blynyddoedd. Nod y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yw annog pobl i dreulio ennyd, munud, neu ddiwrnod – naill ai’n unigol neu ar y cyd – yn myfyrio ar y bobl hynny y gwnaethom eu colli yn ystod y pandemig a thros y blynyddoedd.
Mae ymchwil sy’n ymwneud â galar a cholled yn awgrymu bod agor i fyny i eraill ynglŷn â’ch proses alaru, a threulio amser gyda ffrindiau a theulu, yn gallu helpu eich iechyd meddwl yn y pen draw, gan eich helpu i wynebu a deall y teimladau sy’n cyd-fynd â galaru a helpu i atal emosiynau negyddol a dinistriol rhag adeiladu yn fewnol. Mewn un astudiaeth, dywedodd 50% o'r bobl hynny a oedd yn galaru'n ddwys fod treulio mwy o amser gyda ffrindiau a theulu wedi bob yn hynod ddefnyddiol drwy gydol y broses alaru. 50% of those grieving intensely said spending more time with friends and family was extremely helpful throughout their grieving process.
Mae gwrando ar brofiadau o alar a cholled yr un mor bwysig â siarad amdanynt. Yn y DU, nododd 23% o’r oedolion sydd wedi colli aelod agos o'r teulu y byddai wedi bod yn dda ganddynt petai eu ffrindiau a'u teulu wedi galw i siarad, sy'n awgrymu bod llawer o bobl eisiau siarad am eu colled a'u proses alaru ond eu bod yn chwilio am y bobl yn eu bywyd y gallant gychwyn y sgwrs â nhw. Gallai’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod fod yn gyfle i estyn allan at y bobl yn eich bywyd sydd wedi colli rhywun ac i ofyn sut maen nhw. Gall gofyn yn syml “sut wyt ti?”, hyd yn oed, fynd ymhell.
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun
Er bod colled yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei brofi drwy gydol ein bywydau, nid oes triniaeth hollgynhwysol na llwybr carlam ar gyfer teimlo'n well ar ôl ei brofi. Mae'n galed. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o’r awgrymiadau canlynol yn ddefnyddiol i chi wrth ymdopi:
- I rai, gall galar fod yn broses gymdeithasol. I eraill, gall hyd yn oed meddwl am fod o gwmpas pobl eraill fod yn llethol. Cofiwch nad oes ffordd ‘gywir’ o wneud pethau. Byddwch yn amyneddgar gyda chi'ch hun a pheidiwch â rhuthro i gymdeithasu os nad yw'n teimlo'n iawn. Pan fyddwch chi'n barod, ceisiwch dreulio peth amser gyda'r bobl rydych chi'n ymddiried ynddynt fwyaf yn eich bywyd. Nid oes rhaid i chi drafod y pethau mawr, nid oes rhaid i chi siarad, hyd yn oed, gallai bod o'u cwmpas gynnig rhywfaint o gysur i chi yn ystod y dyddiau tywyllach.
- Mae’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn gyfle i gysylltu â phobl eraill sy’n mynd trwy golled neu alar. Mae siarad â rhywun sy’n deall yn gallu bod yn ffordd dda o gyfleu eich teimladau gyda rhywun sy’n debygol o fod wedi’u teimlo nhw hefyd. Gallwch gofrestru ar gyfer diweddariadau yma.
- Wrth gwrs, gellir cael dyddiau drwg annisgwyl a dirybudd. Mae cael hyfforddwyr cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn gweithleoedd neu ar draws cymunedau helpu i dawelu meddyliau pobl sy'n galaru bod opsiwn ar gael iddynt siarad â rhywun os oes angen cymorth arnynt.
- Yn anad dim, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae gan bawb eu hymatebion unigryw eu hunain i brofedigaeth, ac mae llawer o elusennau yn y DU a all eich cefnogi a'ch helpu drwyddi. Mae rhai o'r elusennau hyn yn cynnwys Cruse, Mind a The Good Grief Trust.
I ddarganfod mwy amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedigewch i’n gwefan a buddsoddwch yn eich llesiant chi ac yn iechyd meddwl y rheini o’ch cwmpas