Pobl ifanc yn eu harddegau, cwsg a hunanynysu: Adegau anodd!

Covid-19 Lockdown concept. CORONAVIRUS LOCKDOWN. Covid-19 Pandemic world lockdown for quarantine. World many country and city under lockdown concept.

Pobl ifanc yn eu harddegau, cwsg a hunanynysu: Adegau anodd!

Yr hyn rwyf wedi ei ddarganfod ers dod yn rhiant: os oes gan fy mhlant broblemau, mae gen i broblemau!

Pan oedden nhw’n ifanc, gallai eu “problemau” fod yn unrhyw beth rhwng methu â dod o hyd i’w hoff degan a darganfod bod gan eu ffrind gorau ffrind gorau newydd. Roeddwn i bob amser yn meddwl y gallwn ymochel ychydig pan ddeuai blynyddoedd eu harddegau, ac mae hynny’n wir i raddau, ond mae gen i set newydd a gwahanol o broblemau i’w hwynebu bellach.

Perthnasoedd, ysgol, coleg gwaith a’r cyfryngau cymdeithasol, i enwi ond ychydig, a bellach

Y coronafeirws a chyfnod clo. Hwyl i bawb!

Ers i’r cyfyngiadau symud effeithio arnom ni i gyd, rwyf wedi darganfod problem newydd roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ei datrys flynyddoedd yn ôl pan oedd y bechgyn yn ifanc. Rhywbeth nad ydym ni’n meddwl amdano’n aml iawn, ond sydd wedi dod yn broblem yn fy nhŷ i, ac yn nhai llawer o bobl, byddwn i’n dychmygu. Y broblem honno yw cwsg!

Gwnes i fuddsoddi amser ac egni mewn sefydlu arferion cysgu da. Gyda thri bachgen o dan bump oed, doedd hynny ddim yn hawdd ond roeddwn i’n benderfynol o wneud yn siŵr y bydden nhw’n cael patrymau cysgu da gan fy mod i’n credu mai dyna oedd yr ateb i gael ffordd iach o fyw. Roedd gennym amser bath, amser stori ac amseroedd gwely ar wahân, ac roedd hynny’n gweithio (y rhan fwyaf o’r amser).

Mae pethau wedi bod i fyny ac i lawr wrth iddynt fynd yn hŷn; mae angen mwy o ymreolaeth arnynt a chael rhyddid i ddatblygu eu harferion a’u patrymau cysgu eu hunain. Ar y cyfan, maen nhw’n cysgu mewn ffordd sydd mor normal â’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn eu harddegau, gyda nosweithiau hwyr yma ac acw, yn ystod adegau o wyliau ac ar benwythnosau.

Yna, cyfyngodd y coronafeirws ar ein rhyddid ac mae bywyd wedi newid yn aruthrol inni i gyd. Gallwn ni egluro i’n pobl ifanc y cyfrifoldeb cymdeithasol a moesol o aros gartref, ond mae’n ergyd galed.

Dim cyfarfod â ffrindiau yn eu hoff lefydd, dim chwaraeon a chlybiau i gymryd rhan ynddynt.

Ers i ysgolion a cholegau gau mae pobl ifanc wedi canfod eu bod wedi’u cyfyngu i’w tŷ gyda’u rhieni neu ofalwyr. Fodd bynnag, maen nhw’n dal i fod wedi’u cysylltu â’r byd mawr drwy’r rhyngrwyd. Rwy’n meddwl ei bod yn wych bod fy mechgyn yn cyfathrebu â’u ffrindiau ar gemau, y cyfryngau cymdeithasol a thrwy apiau, ond maen nhw bellach yn ei chael hi’n anodd diffodd gyda’r nos.

Wrth i ddyddiau’r cyfnod clo fynd yn eu blaen mae’r sefyllfa’n wedi cael effaith gynyddol ar eu patrwm cysgu nes inni gyrraedd pwynt lle roedden nhw mwy neu lai yn adar nos. Bydden nhw’n codi o’u gwelyau gyda gwallt blêr a llygaid llawn cwsg yn hwyr yn y prynhawn, gan chwilio trwy gypyrddau’r gegin am “frecwast”. Ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd i unrhyw un arall?

Tra bydden ni’n ymlacio gyda’r nos ac yn coginio swper, byddai eu “diwrnod” nhw newydd ddechrau, ac nid oedd modd i’w stumogau ddelio â phrydau nos o gyri neu ginio rhost mor fuan ar ôl deffro. Wrth i’r haul fachlud, bydden nhw newydd ddeffro a’u meddyliau’n troi at gonsolau gemau a ffonau.

Erbyn i ni droi am y gwely byddai’r bechgyn yn eu hanterth yn chwarae gemau ar eu consolau, a gyda’u clustffonau a’u meicroffonau ynghlwm bydden nhw’n cymryd rhan mewn gemau pêl-droed uwch gynghrair neu gemau tîm o bwysigrwydd enbyd.

Byddai ein hymbiliadau am dawelwch yn cynyddu yn yr un modd ag y byddai anallu’r bechgyn i gydymffurfio â hwy. Tybed p’un a oedd yr holl rieni eraill yn pledio yr un modd â ninnau?

Byddai ein blinder yn arwain at rwystredigaeth a dicter ar ôl nosweithiau o ddiffyg cwsg, gyda’r bechgyn yn siarad, yn cerdded o gwmpas y tŷ ac yn gwneud bwyd a diodydd. Byddai haul y bore’n codi, a’n tro ni oedd hi i fod â llygaid llawn cwsg. Bydden ni’n brwydro trwy ddiwrnodau blinedig, gan edrych i mewn arnyn nhw, o bryd i’w gilydd, yn cysgu’n dawel, yn methu â deffro eu hunain i’n galwadau i godi ac i beidio â gwastraffu’r heulwen hyfryd. Yn y diwedd, penderfynon ni fod angen gweithredu.

Gwnaethon ni gyflwyno ein cynllun iddyn nhw a daeth syndod ac arswyd i’w hwynebau wrth inni gyhoeddi na fydden nhw’n cael defnyddio’r rhyngrwyd ar ôl 10pm. Roedd y bonllefau “na”, a “beth ydw i’n mynd i wneud?”, “beth am fy ffrindiau?” yn bownsio oddi ar y waliau. Iddyn nhw, roedd yn teimlo fel cyfnod clo rhithwir yn ogystal ag un corfforol. Ond roedden ni ar ben ein tennyn a gwnaethon ni esbonio nad cosb oedd hyn ond ymgais i wella’u ffordd o fyw.

Mae’r GIG yn argymell bod pobl ifanc yn eu harddegau yn cael o leiaf wyth neu naw awr o gwsg.

Roedd fy mhlant i’n bendant yn cael wyth neu naw awr o gwsg, ond yn ystod y dydd yn hytrach na gyda’r nos!

Roedd noson gyntaf y cyfnod cloi rhithwir yn anodd i bob un ohonom. Roedd y bechgyn yn cael trafferth setlo ac yn chwilio am eu ffyrdd arferol o leddfu diflastod – y ffôn clyfar oedd y dewis cyntaf, ar gyfer apiau, fideos a gemau. Felly, fel y gallwch ddychmygu, ni chymerodd lawer o amser cyn iddyn nhw ddefnyddio’u holl ddata.

Y diwrnod canlynol, fe wnaethon ni eu deffro a’u tynnu allan o’u gwelyau, gan ddweud wrthyn nhw ein bod ni’n gwybod eu bod nhw’n flinedig ond pe gallen nhw ddod o hyd i ryw weithgaredd i’w cadw’n brysur yn ystod y dydd byddai heno’n well na neithiwr.

Felly, aethon ni am dro, cael ychydig o awyr iach a heulwen, dod o hyd i dasgau yn y tŷ a’r ardd a’r hen gais hwnnw gan rieni ym mhobman ... “Cer i dacluso dy ystafell wely!”

Mae’n hysbys bod ymarfer corff rheolaidd yn gwella ansawdd cwsg ac mae tystiolaeth yn dangos bod treulio amser yn yr awyr agored yn helpu gyda llesiant emosiynol a chorfforol, felly fe wnaethon ni geisio dysgu’r ddamcaniaeth hon iddynt ac, er gwaetha’r protestiadau o fod yn rhy flinedig, a doedden nhw “ddim yn teimlo fel gwneud”, fe wnaethon ni eu perswadio i ymuno â’n taith gerdded deuluol ddyddiol.

Ar ôl wythnos mae pethau’n llawer gwell. Neithiwr roedd fy llanc ieuengaf eisoes wedi diffodd ei olau i gysgu erbyn 11pm, ac mae’r bechgyn wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n fwy bywiog ac effro yn ystod y dydd.

Mae’r cyfnod hwn yn anodd iddyn nhw, fel ag y mae i ninnau. Dydyn ni ddim am eu hamddifadu o ryngweithio â’u ffrindiau yn y byd newydd cyfyngedig hwn rydyn ni i gyd yn dod i delerau ag ef, ond roedd angen gweithredu er mwyn eu hatal nhw rhag troi i mewn i bobl nosol.

Mae’n anodd newid patrymau cysgu, ond gall manteision cael noson dda o gwsg fod yn fuddiol i bobl ifanc mewn llawer o ffyrdd, megis lleihau plorod, cynnal pwysau iach, tyfu (mae hormonau twf yn cael eu rhyddhau yng nghyrff pobl yn eu harddegau wrth gysgu), mwy o egni, a chanolbwyntio’n well yn y coleg, yr ysgol a’r gwaith.

Mae’r Athro Jason Ellis o Brifysgol Northumbria yn argymell 10 gorchymyn hylendid cwsg,

Cadw trefn gysgu reolaidd.
Mynd allan i olau naturiol (rwyf bob amser yn agor y llenni yn ystafelloedd gwely’r bechgyn yn y bore).
Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd.
Osgoi cyfnerthwyr wyth awr cyn amser gwely (dim rhagor o ddiodydd egni!)
Peidio â mynd i’r gwely yn llawn, yn sychedig neu’n eisiau bwyd.
Dim amser sgrin cyn mynd i’r gwely, mae’r golau glas yn atal yr hormon cwsg sy’n ein gwneud ni’n gysglyd.
Peidio â defnyddio alcohol cyn mynd i’r gwely, mae’n dawelydd ond bydd yn arwain at gwsg gwael.
Osgoi nicotin cyn mynd i’r gwely, mae’n gyfnerthydd byrhoedlog.
Cadw’r ystafell wely’n lled oer, yn dywyll ac yn dawel.
Cuddio’r cloc, mae gwylio cloc yn cynyddu gorbryder pan fyddwch yn ei chael yn anodd i gysgu.

Mae hi mor anodd on’d yw hi? Diolch am ddarllen y blog, ac mae croeso i chi adael eich sylwadau isod.

Pob lwc i’r holl bobl yn eu harddegau a rhieni a gofalwyr pobl ifanc yn eu harddegau sy’n wynebu brwydrau tebyg!

Gan nathan

Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has been the industry's standard dummy text ever since the 1500s, when an unknown printer took a galley of type and scrambled it to make a type specimen book. It has survived not only five centuries, but also the leap into electronic typesetting, remaining essentially unchanged.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop