Sut y gall caredigrwydd gael effaith fawr ar ein hiechyd meddwl

Mae gweithred o garedigrwydd, boed yn fawr neu’n fach, yn cael effaith ganlyniadol sy’n creu ton eang o bositifrwydd a hapusrwydd. Mae gwên gan ddieithryn, canmoliaeth gan gydweithiwr, neu fodlonrwydd cymydog i gymryd parsel ar eich rhan yn weithredoedd bach ond effeithiol o garedigrwydd a all godi eich hwyliau a newid eich diwrnod. Mae ymchwil ynghylch caredigrwydd hefyd yn awgrymu bod dangos caredigrwydd i eraill yn gwella ein llesiant ein hunain, yn gorfforol ac yn feddyliol. I enwi dim ond ychydig o enghreifftiau, gall y weithred o garedigrwydd leihau pwysedd gwaed a chortisolhormon straen – sy’n cael effaith uniongyrchol ar lefelau straen ac yn rhoi hwb i lefelau serotonin.

Gyda’r byd yn dathlu Diwrnod Caredigrwydd y Byd ar 13th 13 Tachwedd, mae’n gyfle i ni gyd fyfyrio ar y manteision y mae rhoi a derbyn caredigrwydd yn eu cael ar ein llesiant, yn enwedig significant emotional impactsyn dilyn yr effeithiau emosiynol sylweddol y mae COVID-19 wedi’u cael ar draws y DU.

 

Sut mae caredigrwydd yn effeithio arnom ni

The Mae Geiriadur Caergrawnt yn disgrifio caredigrwydd fel ‘y rhinwedd o fod yn hael, yn gymwynasgar, a gofalgar tuag at bobl eraill, neu weithred sy’n dangos y rhinwedd hwn’. Mae’r disgrifiad hwn yn awgrymu bod caredigrwydd yn brofiad a rennir, a’i fod yn fuddiol i’r ddau gyfeiriad, sy’n golygu ei fod yn aml iawn yn sylfaenol ym mhob cymuned, teulu a chyfeillgarwch.

Mae mwy i garedigrwydd nag a welir. Mewn gwirionedd, mae’n weithred ffisiolegol a meddyliol gymhleth iawn a all gael effaith wych ar ein hiechyd meddwl. Pan fyddwn yn teimlo caredigrwydd, boed hynny’n golygu ei roi neu ei dderbyn, mae ein hymennydd yn cynhyrchu’r cemegion dopamin ac ocsitosin, a gall y cemegion hyn godi ein hwyliau ac, o ganlyniad, leihau gorbryder a theimladau o iselder. Mae cemegion eraill o’r enw endorffinau yn cael eu rhyddhau pan fyddwn yn teimlo caredigrwydd , ac mae’r rhain yn helpu i leihau poen a straen. Mae’r cymysgedd hwn o gemegion “hapus” yn hybu ein llesiant cyffredinol ac yn magu’r teimlad cynnes rydyn ni’n aml yn ei gael yn ystod gweithred o garedigrwydd. O ganlyniad uniongyrchol i’r emosiynau a’r teimladau cadarnhaol hyn, rydym yn teimlo’n fwy cysylltiedig ac yn llai ynysig oddi wrth y rheini sy’n dangos caredigrwydd i ni.

 

Beth yw Diwrnod Caredigrwydd y Byd?

Mae Diwrnod Caredigrwydd y Byd wedi cael ei ddathlu ar 13th Tachwedd ers 1998, a’i nod yw hyrwyddo teimladau a gweithredoedd o garedigrwydd ledled y byd. Diben Diwrnod Caredigrwydd y Byd yw “tynnu sylw at weithredoedd da yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar y grym cadarnhaol a’r llinyn caredigrwydd cyffredin sy’n ein clymu at ein gilydd.” Ers ei greu fwy na dau ddegawd yn ôl, mae’r diwrnod wedi denu sylw byd-eang, gan ddenu cyfranogwyr o bob cyfandir cyfannedd. Mae’r rhain wedi cynnwys gweithgareddau fel cyngherddau, mobs dawns a dosbarthu “cardiau caredigrwydd”. Er bod y diwrnod yn rhoi llwyfan haeddiannol i garedigrwydd, mae’r mudiad yn ein hatgoffa i gyd fod grym mewn gweithredoedd syml o garedigrwydd a, gyda’n gilydd, ein bod ni i gyd yn gallu gweithio i greu byd mwy caredig, bob dydd o’r flwyddyn.

Mae llu o wybodaeth ar gael am sut i gymryd rhan mewn mentrau i gefnogi’r diwrnod, gydag adnoddau a syniadau ar gyfer unigolion, gweithluoedd ac ysgolion Mae’r Random Act of Kindness Foundation hefyd yn canolbwyntio ar ymgyrch o’r enw “Make Kindness the Norm” sy’n cynnwys saith ffordd ddiriaethol o wneud caredigrwydd yn rhan o fywyd bob dydd – felly beth am gymryd rhan a rhoi cynnig ar y rhain drosoch eich hun ar Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd?

 

Dangos caredigrwydd i chi eich hun

Mae hunanofal yn rhan bwysig o fod yn garedig â chi’ch hun. Mae creu trefn hunanofal wedi’i brofi’n glinigol i leihau gorbryder ac iselder, lleihau straen, gwella canolbwyntio, lleihau rhwystredigaeth a dicter, cynyddu hapusrwydd a gwella lefelau egni. Gall arferion ac ymarferion hunanofal amrywio o berson i berson, ond mae’r Sefydliad Hunanofal Rhyngwladol wedi datblygu fframwaith hunanofal o gwmpas saith piler, gan gynnwys y canlynol: ‘Llythrennedd Gwybodaeth ac Iechyd’, ‘Llesiant Meddyliol’, ‘Gweithgarwch Corfforol’, ‘Bwyta’n Iach’, ‘Osgoi Risg’, ‘Hylendid Da’ a ‘Defnydd Rhesymegol o Gynhyrchion a Gwasanaethau’, sy’n cwmpasu ein hanghenion cyffredinol.

Gall fod yn heriol ar y dechrau ddod i’r arfer o ymgorffori pob un o’r saith piler hyn yn eich bywyd bob dydd, felly dyma nifer o syniadau ar gyfer gofalu am eich hun er mwyn eich rhoi ar ben ffordd ar ein taith llesiant ar Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd:

 

  • Siarad yn garedig â chi’ch hun: Sut ydych chi’n siarad â’r bobl rydych chi’n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw? Allwch chi droi’r llais hwnnw arnoch chi’ch hun?

 

  • Bod yn ddiolchgar: Pa dri pheth ydych chi’n ddiolchgar amdanyn nhw bob dydd? Gwnewch nodyn ohonynt neu dywedwch wrth rywun sy’n bwysig ichi amdanynt.

 

  • Bod yn gymwynasgar: Ewch i gerdded gyda chymydog oedrannus. Gadewch nodyn o ddiolch i gydweithiwr. Gadewch i ddieithryn fynd o’ch blaen mewn ciw. Beth allwch chi ei wneud i wella diwrnod rhywun?

 

  • Bwyta deiet cytbwys: Bwytewch fwy o’r bwydydd sy’n iach i chi yn gorfforol ac yn feddyliol. Ystyriwch wneud newidiadau hylaw i’ch deiet er mwyn cynnal eich iechyd cyffredinol. diet to support your overall health.

 

  • Buddsoddi yn eich diddordebau: Gwnewch bethau sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’r pethau rydych chi’n frwdfrydig amdanynt. Fel rhedeg? Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser ar gyfer hynny yn ystod yr wythnos. Ydych chi’n greadigol? Neilltuwch amser ar gyfer bod yn greadigol. Peidiwch â gadael i’r gweithgareddau llai pwysig wthio’r hyn sy’n bwysig i chi.

 

  • Ceisio ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar: Stopiwch a meddyliwch am yr hyn yr ydych chi’n ei wneud yn y funud bresennol. Gallwch chi wneud bron unrhyw beth mewn ffordd ofalgar – bwyta pryd o fwyd, brwsio eich dannedd, neu ddewis mynd am dro mewn ffordd ofalgar.

 

  • Treulio amser ym myd natur neu o’i gwmpas: Gall treulio amser o gwmpas elfennau o’r byd naturiol dawelu eich meddwl a gwella eich ymdeimlad o lesiant. Ewch i nofio mewn dŵr oer, ewch am dro hir, ewch i’r traeth, neu cerddwch yn hytrach na defnyddio cludiant.

 

Rydym yn gobeithio y bydd y syniadau hyn ar gyfer gofalu am eich hun yn eich ysbrydoli a’ch helpu i fod yn garedig â chi’ch hun ac â’r bobl sydd o’ch cwmpas ar Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd eleni. I ddarganfod amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’nhyfforddwyr trwyddedig, ewch i’n gwefan a helpwch i sicrhau mai caredigrwydd yw’r norm.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop