Beth yw cymorth cyntaf iechyd meddwl?

Mae gennym ni i gyd iechyd meddwl, yn union fel y mae gennym ni i gyd iechyd corfforol, ond weithiau mae pobl yn blaenoriaethu eu hiechyd corfforol dros eu hiechyd meddwl. Gyda hynny mewn golwg, mae’n bwysig deall y gall salwch meddwl ymddangos ar unrhyw adeg a gall effeithio ar bawb, yn union fel y gall salwch corfforol. 

Mae cymorth cyntaf iechyd meddwl yn cyfateb i gymorth cyntaf corfforol, a dyma’r help rydych chi’n ei roi i rywun sy’n datblygu problem iechyd meddwl neu sy’n wynebu argyfwng iechyd meddwl nes bod y person mewn angen wedi cael y driniaeth broffesiynol briodol. Mae fel galw am swyddog cymorth cyntaf os ydych chi’n cwympo neu’n teimlo’n sâl – bydd yn eich helpu i deimlo’n well yn y cyfamser, ond mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi geisio mwy o help o hyd; mae hi union yr un peth yn achos cymorth cyntaf iechyd meddwl.

Dyma rai o’r pethau y mae swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn eu gwneud i sicrhau eu bod yn cynnal iechyd meddwl a llesiant person sy’n dioddef o salwch meddwl.

 

Adnabod yr arwyddion

Fel cymdeithas, rydyn ni’n tueddu i wybod yn well sut i ofalu am ein hiechyd corfforol na’n hiechyd meddwl. Mae hyn yn golygu efallai na fydd pobl yn gwybod sut i gynorthwyo ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr sy’n wynebu problem iechyd meddwl. dim ond 12% o oedolion yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio triniaeth iechyd meddwl Mewn gwirionedd, dim ond 12% o oedolion y DU sy’n ceisio triniaeth iechyd meddwl os ydynt yn dioddef. Pe bai gennych chi arddwrn wedi’i ysigo neu ddolur clust, byddech chi’n mynd i’r ysbyty neu’n ymweld â’ch meddyg teulu lleol, ond nid yw llawer o bobl yn trin eu hiechyd meddwl yn yr un ffordd. Rydym am newid hyn yn MHFA Cymru drwy godi ymwybyddiaeth pobl drwy hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.

Gall hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl helpu pobl i ddeall y ffordd orau o gynorthwyo pobl sy’n wynebu’r canlynol:

  • Iselder
  • Gorbryder
  • Seicosis
  • Anhwylder bwyta
  • Meddyliau hunanladdol
  • Pyliau o banig
  • Problemau gyda defnyddio sylweddau

 

I baratoi ar gyfer yr adegau hyn, bydd cael hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn eich galluogi i gynorthwyo rhywun sy’n datblygu unrhyw un o’r uchod, boed hynny gartref neu yn y gwaith. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl wedi’i gynllunio i hyfforddi pobl i fod yn ddarparwyr gofal iechyd meddwl. Ni fydd swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn sefyllfa i wneud diagnosis na thrin anhwylderau meddwl ar ôl cael hyfforddiant o’r fath; dim ond cynorthwyo rhywun yn ystod argyfwng neu ar ôl sylwi ar newid mewn person byddan nhw’n ei wneud, er mwyn sicrhau ei fod yn ceisio cymorth proffesiynol priodol.

 

Sut i wella iechyd meddwl yn y gweithle

Yn ôl Adroddiad Iechyd Gweithlu 2021 GoodShape UK plccymerodd gweithwyr y Deyrnas Unedig dros 319 miliwn o ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, a hynny ar gost amcangyfrifedig o £43 biliwn i gyflogwyr. Problemau iechyd meddwl oedd y prif reswm dros gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yn 2021, gan gyfrif am 19% o’r holl amser gwaith a gollwyd ar draws y wlad, sydd hyd yn oed yn fwy na’r achosion o COVID-19 wedi’u cadarnhau, a oedd yn cynrychioli 16%.

Mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y DU yn cynghori gweithleoedd yn gryf bod angen penodi rhywun i fod yn gyfrifol am gymorth cyntaf corfforol yn y gweithle.Fodd bynnag, mae ystadegau fel yr uchod yn ei gwneud yn glir bod angen i gyflogwyr drin iechyd meddwl mewn ffordd debyg i iechyd corfforol er mwyn gwella iechyd meddwl yn y gweithle. Byddai hyn yn golygu bod gweithleoedd a chyflogwyr yn ystyried y canlynol:

  • Cynnal asesiadau risg iechyd a diogelwch sy'n ystyried iechyd meddwl a risgiau, nid y corfforol yn unig
  • Sicrhau bod swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl cymwysedig yn rhan o’r tîm
  • Cynnal arferion iechyd meddwl iach yn y gweithle drwy hyfforddiant parhaus ac adnoddau hygyrch

 

Ategir hyn hefyd gan gyhoeddiad diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd a argymhellodd, am y tro cyntaf y tro cyntaf, y dylid hyfforddi rheolwyr i helpu i nodi gweithwyr sydd angen cymorth sy’n ymwneud ag iechyd meddwl,ac ymateb iddynt; yn ogystal â gweithwyr unigol er mwyn codi ymwybyddiaeth. Bydd hyn yn galluogi rheolwyr i ddeall sut i wella iechyd meddwl yn y gweithle a rhoi’r hyder iddynt nodi pobl â phroblemau iechyd meddwl yn eu tîm, ymdrin â nhw a’u cefnogi, ac i addasu’r elfennau hynny o’r amodau gwaith sy’n achosi straen.

Ar gyfartaledd, rydym yn treulio traean o’n bywydau yn y gwaith, felly mae’n bwysig iawn gwneud i’ch cwmni deimlo’n groesawgar ac yn agored i drafodaethau am lesiant ac iechyd meddwl. Mae swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle wedi’u hyfforddi i wrando ac i fod yn bwynt cyswllt i weithwyr sy’n profi trallod emosiynol neu sy’n dioddef problemau iechyd meddwl yn dawel. Drwy gyrsiau hyfforddi fel y rhai rydyn ni’n eu cynnig yn MHFA CymruMHFA Cymru, mae swyddogion cymorth cyntaf yn cael eu haddysgu i gyfeirio rhywun yn hyderus at gymorth priodol ac maen nhw’n barod i ymdrin ag argyfyngau hefyd – fel meddyliau hunanladdol, er enghraifft.

Mae hyfforddiant yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan bobl y dulliau, y ddealltwriaeth a’r hyder i ymdrin â phob math o broblemau iechyd meddwl a llesiant. O ystyried yr hinsawdd bresennol yn y DU mewn perthynas ag iechyd meddwl, rydyn ni bron yn sicr o ddod ar draws problemau, yn bersonol ac yn broffesiynol. Felly, mae gwybod sut i wella iechyd meddwl yn y gweithle yn hanfodol i lesiant gweithwyr.

Mewn gwirionedd, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cadarnhau y bu an increase in undertaking MHFA training cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn gweithleoedd wrth i gyflogwyr ddechrau cydnabod ei bod yn gynyddol bwysig diogelu iechyd cyfannol eu gweithwyr consistent evidence a bod tystiolaeth gyson bod hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn codi ymwybyddiaeth gweithwyr o salwch meddwl, gan gynnwys arwyddion a symptomau. Mae gan weithwyr sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl ddealltwriaeth well o ble i ddod o hyd i wybodaeth a chymorth proffesiynol, ac maen nhw’n fwy hyderus o ran helpu unigolion sy’n profi salwch meddwl neu argyfwng.

 

Pam hyfforddi gydag MHFA Cymru?

Fel deiliad trwydded Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru, rydym yn datblygu ac yn darparu hyfforddiant iechyd meddwl o safon i gyflogwyr, sy’n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth.

Gyda thros ddegawd o brofiad o ddarparu hyfforddiant, rydym wedi gweithio gyda miloedd o gwmnïau ar draws y DU, o fusnesau bach i gorfforaethau mawr, fel MoneySuperMarket, Deloitte a Principality. Mae’r cwmnïau hyn wedi gweld a phrofi’r buddion sy’n deillio o fuddsoddi yn llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr – o gynhyrchiant uwch ac ansawdd gwaith gwell i welliannau o ran iechyd a hapusrwydd gweithwyr. Yn dilyn o hyn, drwy fuddsoddi yn llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr, bydd effeithiau cadarnhaol y weithred hon yn cyrraedd teuluoedd a ffrindiau’r gweithwyr, cleientiaid, cwsmeriaid a phawb y maent yn rhyngweithio â nhw.

Rydyn ni’n credu mai canolbwyntio ar lesiant ac iechyd meddwl yw’r dyfodol ym maes datblygu busnes, a gall greu effaith sylweddol ar weithleoedd corfforaethol a’u diwylliant.

I ddarganfod mwy amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedigewch i’n gwefan a buddsoddwch yn llesiant ac iechyd meddwl eich gweithwyr.

 

Tystebau:

“Roedd y cwrs yn graff ac yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy rôl fel rheolwr..” – Rhian. R

 

“Cwrs hynod ddefnyddiol. Fe agorodd fy llygaid i broblemau iechyd meddwl ac mae wedi rhoi’r hyder imi helpu pobl eraill.” – Paul Paddick

 

“Cwrs gwych, cynllun clir iawn ac addysgiadol iawn. Roedd yr ymarferion yn rhan wych gan eu bod yn sicrhau eich bod yn parhau i ymwneud â’r pwnc gan fod rhywfaint o’r wybodaeth hon yn eitha ysgytwol.” – Lauren Rees

 

Hyfforddwyr cyfeillgar, croesawgar iawn. Roeddent yn egluro pethau’n glir ac yn parchu atebion pawb yn y trafodaethau grŵp. Roeddent yn galonogol. Yn ystod y trafodaethau roedd yn ddefnyddiol clywed profiadau pobl a chymhwyso hynny i’r hyn roedden ni’n ei ddysgu. Roedd y fideos yn ddefnyddiol iawn gan fod yr agwedd adrodd straeon yn helpu o ran cofio’r wybodaeth, e.e. yn y fideo ar seicosis roedd yn ddefnyddiol cael y tystebau o brofiadau bywyd go iawn pobl, a chlywed sut y bydden nhw’n hoffi cael eu helpu. Fe wnaeth y senarios a gyflwynwyd inni ein helpu i feddwl am y drefn y byddem yn defnyddio ALGEE mewn sefyllfa bywyd go iawn. Roedd cyflymder da i’r agwedd e-ddysgu ac roedd yn cynnwys cymysgedd da o wybodaeth i’w darllen a gwahanol dasgau i’w gwneud, megis llenwi blychau ymateb ac ymarferion clicio a llusgo. Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a’r rheini sy’n byw gyda rhywun sydd â salwch meddwl – Jennie Coates

 

“Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr, ac mae wedi rhoi dealltwriaeth imi o sut i helpu rhywun mewn argyfwng. Ond mae hyn hefyd wedi rhoi dealltwriaeth i mi o’r hyn i fod yn wyliadwrus ohono ynof i fy hun. Ar ôl cael trafferth gyda fy iechyd meddwl fy hun, rwy’n edrych ymlaen at gefnogi a helpu unrhyw un sydd ei angen.” – Owen Turner

 

Darllenwch ragor o dystebau yma. yma.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop