Atal hunanladdiad a dyled – adnabod yr arwyddion

Ar 10 Hydrefth cafodd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ei ddathlu ar draws y byd, a bu’n gyfle gwych i annog trafodaethau gonest ac agored am iechyd meddwl – sy’n arbennig o bwysig i’r rheini a all fod yn profi meddyliau a theimladau hunanladdol.

Er bod diwrnodau ymwybyddiaeth fel Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a lledaenu’r neges ynglŷn â sut i ddod o hyd i help a gofyn amdano, yn anffodus mae hunanladdiad yn parhau i fod yn broblem sylweddol i lawer. Wrth inni symud tuag at yr argyfwng costau byw mewn cenhedlaeth, mae’n bosibl y bydd yr anawsterau ariannol sylweddol y mae pobl yn eu hwynebu yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Mewn gwirionedd, mae 40% o bobl sydd â phroblem iechyd meddwl yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn dirywio wrth i’w sefyllfa ariannol ddirywio o ganlyniad uniongyrchol, a gallai’r ffigur hwn gynyddu o bosibl wrth i’r argyfwng costau byw presennol barhau.

Felly mae’n bosibl y byddwn yn canfod bod y rheini yn y sectorau ariannol mewn sefyllfa lle mae’r ffaith eu bod wedi cael hyfforddiant ar atal hunanladdiad yn sgìl allweddol. Gall hyn beri dychryn neu ymddangos yn orchwyl frawychus i’r sectorau ariannol, ond mae’r ffordd mae pobl yn ymateb i arwyddion bod rhywun mewn perygl yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a gollir a bywyd a achubir. Gall hyfforddiant ar iechyd meddwl a hunanladdiad yn y sectorau ariannol helpu i leihau effaith anawsterau ariannol ar iechyd meddwl unigolion. Byddai’r hyfforddiant hwn yn hybu mwy o ymwybyddiaeth o’r arwyddion bod rhywun mewn trallod neu mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ac yn eu cynorthwyo i deimlo’n fwy hyderus wrth ymdrin â phryderon.

 

Anawsterau ariannol a chyfraddau hunanladdiad

Yn anffodus, mae’n ymddangos bod cydberthynas rhwng anhawster ariannol a chyfraddau hunanladdiad. Roedd 44% o’r oedolion â phroblemau iechyd meddwl yn y DU a oedd ar ei hôl hi gyda biliau y llynedd naill ai wedi ystyried neu wedi ceisio lladd eu hunain. Mae’r risg bod pobl yn teimlo’n hunanladdol yn cynyddu gyda lefel y ddyled. Yn y DU, roedd 58% o’r bobl hynny â dyled o dros £30K wedi ystyried neu wedi ceisio lladd eu hunain..

Mae ymchwil hefyd wedi canfod bod dyled ariannol ddifrifol yn fwy tebygol o achosi teimladau hunanladdol mewn dynion. Y llynedd, dangosodd ystadegau ei bod yn ymddangos bod gan fenywod lai o ddyledion na dynion, a bod gan ddynion 4.3% yn fwy o ddyled ar gyfartaledd na menywod.Er y gall dyled ariannol fod yn ffactor y gellir ei briodoli i hunanladdiadau ymhlith dynion a menywod, mae’r ymchwil hwn yn dangos bod dynion mewn mwy o berygl o deimladau hunanladdol yn sgil anhawster ariannol na menywod. Un o’r ffactorau eraill sydd hefyd yn rhoi dynion mewn mwy o berygl yw’r ffaith eu bod yn fwy tebygol o geisio cymorth yn hwyrach na menywod gyda’u dyledion a’u hanawsterau ariannol, sydd i raddau’n esbonio’r gyfradd uwch o hunanladdiad ymhlith dynion.

Fel y nodwyd, yn sgil y cynnydd aruthrol yng nghostau byw dros y misoedd diwethaf, gallem weld llawer mwy o bobl yn profi cyfnod o drafferthion ariannol. Fel rydym wedi gweld, gall pryderon ariannol effeithio ar iechyd meddwl gan achosi gorbryder, hwyliau isel a straen wrth i bobl gael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd am yr hyn y gallant ei fforddio. Gyda chostau’n codi’n gyflymach na chyflogau, a’r biliau siopa ac ynni wythnosol bellach yn cyfrif am gyfran uwch o incwm pobl, gallai teimladau o straen a chywilydd am arian gael effaith ddofn ar iechyd meddwl. Felly, mae’n hanfodol cynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff o ran adnabod ac ymateb i’r arwyddion y gallai rhywun fod yn teimlo’n hunanladdol, a gallai hyn achub bywydau yn wirioneddol.

 

Sut y gall y sectorau ariannol helpu?

Dylem i gyd wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o bynciau fel atal hunanladdiad, a bydd ymwneud â digwyddiadau fel Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn helpu i ledaenu gwybodaeth a phositifrwydd. Fodd bynnag, wrth i’r cysylltiad rhwng anhawster ariannol a hunanladdiad ymddangos fel pe bai’n mynd i ddod yn fwyfwy amlwg yn sgil yr argyfwng costau byw, mae’n bosibl y bydd y sectorau ariannol yn allweddol o ran chwalu’r teimladau hyn o gywilydd ac embaras sy’n gysylltiedig â thrafferthion ariannol ac afiechyd meddwl.

Gall y rheini yn y sectorau ariannol sy’n ymdrin yn uniongyrchol â phobl sydd mewn anhawster ariannol fod mewn sefyllfa i roi cymorth os ydynt wedi cael hyfforddiant yn y maes cywir, megis atal hunanladdiad. Maent mewn sefyllfa ddelfrydol i adnabod pryd y gallai rhywun fod yn wynebu amser caled neu anodd oherwydd arian. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, siaradodd un ym mhob pedwar aelod o staff casglu dyledion rheng flaen ag o leiaf un cwsmer yr oeddent yn credu o ddifrif y gallai gymryd ei fywyd ei hun.Mae hyn yn drist iawn i’w glywed, nid yn unig o safbwynt y cwsmer sy’n dioddef, ond hefyd o ran y rheini yn y sectorau ariannol a all fod yn brin o sgiliau ac yn ddihyder o safbwynt rhoi arweiniad a chyngor i’r rheini sydd ei angen fwyaf.

Felly, mae’n hanfodol bod staff yn y sectorau hyn yn cael hyfforddiant er mwyn gwybod sut i ymateb yn sensitif a chefnogi cwsmer mewn trallod. Mae pobl yn aml yn cael eu dychryn neu’n nerfus wrth feddwl am ofyn i rywun p’un a ydyn nhw’n ystyried hunanladdiad – mae hyn yn normal; gallai uwchsgilio pobl i deimlo’n hyderus wrth ymateb wneud gwahaniaeth mawr i’r rheini sy’n dioddef. Drwy wella’u gwybodaeth am arwyddion i’w rhybuddio am hunanladdiad, gallai’r sectorau ariannol helpu pobl i deimlo’n llai ynysig a digymorth, gan arwain at ostyngiad posibl mewn cyfraddau hunanladdiad. Yn MHFA Cymru, nod ein cyrsiau yw cefnogi amrywiaeth o sectorau drwy godi eu hyder a gwella’u gwybodaeth fel eu bod yn gallu cynnig arweiniad a chyngor i’w gweithwyr, eu cwsmeriaid a’u cleientiaid eu hunain. Rydym yn ymdrin ag arwyddion bod rhywun yn dioddef o salwch meddwl, sut i ymateb i rywun sy’n arddangos y symptomau hyn, bod yn ymwybodol o gyfrinachedd cleient ynghylch hunanladdiad, a gofalu amdanoch chi’ch hun wrth gynorthwyo person a allai fod yn ystyried hunanladdiad. Os gallwch adnabod arwyddion unigolyn a all fod yn hunanladdol, a thrafod y pwnc yn hyderus, gallech wneud gwahaniaeth sylweddol i lesiant unigolyn.

Fel y trafodwyd eisoes, mae’r math hwn o hyfforddiant ac o godi ymwybyddiaeth yn arbennig o bwysig mewn perthynas â’r cysylltiad rhwng trafferthion ariannol a hunanladdiad; mae pobl yn aml yn gyndyn i geisio cymorth neu siarad â rhywun am eu trafferthion ariannol oherwydd gall problemau ariannol fod wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn teimladau o gywilydd ac annigonolrwydd. Mae bod ar ei hôl hi gyda thaliadau yn aml yn rhywbeth mae'r unigolyn yn ystyried ei fod yn fethiant personol, yn hytrach na’i fod yn symptom cyffredin o amgylchiadau newidiol a gwytnwch ariannol isel. Bydd yr effaith gadarnhaol y gallai’r math hwn o hyfforddiant ei chael, nid yn unig yn y sectorau ariannol ond ym mhob sector, yn helpu i sicrhau y gellir rhannu’r emosiynau negyddol hyn o deimlo’n ynysig ac isel gyda rhywun sydd â’r sgiliau i helpu, fel nad yw baich trafferthion ariannol yn mynd mor bell â datblygu teimladau hunanladdol. Gallai hyn fod yn arwyddocaol o ran gwella bywydau llawer o bobl, a gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleddfu afiechyd meddwl, ac achub bywyd hyd yn oed.

I ddarganfod mwy amdanom MHFA, mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedig, ewch i’n gwefan and be part of the change we all want to see in improving awareness.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop