Sut i gefnogi llesiant pobl ifanc – Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Hyd yn oed cyn pandemig COVID-19, roedd problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn peri pryder. Yn wir mae gan un ym mhob chwech o bobl ifanc yng Nghymru broblemau iechyd meddwl y gellir cael diagnosis ohonynt ac mae hyn ar gynnydd, yn anffodus.

Felly, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi pobl ifanc gyda’u trafferthion iechyd meddwl ac yn eu cyfeirio nhw, a’u rhieni a’u gwarcheidwaid at adnoddau defnyddiol ac effeithiol. Un o’r ffyrdd eraill y gallwn ddangos ein bod yn cydsefyll â phobl ifanc yw drwy ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o bryderon iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

 

Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc 2022

Beth yw Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc? Wel, mae hwn yn ddiwrnod ymwybyddiaeth sy’n cael ei ddathlu ar 19 Medi 2022. Fe’i dechreuwyd gan yr elusen stem4 sydd am hybu iechyd meddwl cadarnhaol ac iach ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc yn eu harddegau a’r rheini sy’n eu cefnogi, drwy ddarparu addysg iechyd meddwl, strategaethau gwytnwch ac ymyriadau cynnar.

Y nod o Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yw annog trafodaethau am iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc a hybu dealltwriaeth ohono, gan sicrhau bod pobl ifanc a’r rheini sy’n eu cefnogi yn cymryd camau i wella’u llesiant eu hunain, a llesiant plant a phobl ifanc yn eu harddegau. Gobaith stem4 yw sicrhau bod pob person ifanc yn byw bywyd hapus, iach a dibryder, nid yn unig yn ystod y diwrnod ymwybyddiaeth, ond drwy gydol y flwyddyn.

Y thema ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc eleni yw #CysylltunYstyrlon (#ConnectMeaningfully). P’un a ydyn ni’n hoffi hynny ai peidio, rydyn ni’n byw mewn byd digidol lle rydyn ni’n gallu cael mynediad i’r cyfryngau cymdeithasol bob awr o’r dydd, sgwrsio â ffrindiau a theulu ar-lein ni waeth ble maen nhw yn y byd, a dod o hyd i’r atebion i unrhyw gwestiynau posibl mewn ychydig eiliadau – mae’n swnio’n wych, on’d ydyw?

Wel, er ein bod ni wedi ein cysylltu fwy nag erioed o’r blaen, mae gan lawer o bobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd yn teimlo’n gryf eu bod wedi’u datgysylltu o bobl eraill - hyd yn oed yn fwy felly yn ystod ac ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mewn arolwg a gynhaliwyd gan BBC Radio 4 (The Loneliness Experiment), canfuwyd mai pobl ifanc rhwng 16-24 oed yw’r grŵp oedran syn teimlo fwyaf unig yn y DU, gyda 40% o ymatebwyr yn teimlo’n unig ‘yn aml’ neu ‘yn aml iawn’.

Yng ngoleuni’r ystadegyn hwn, mae Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc 2022 yn gwahodd pobl ifanc i fyfyrio ar eu cysylltiadau, boed hynny â ffrindiau, teulu, athrawon neu gyfoedion, a rhannu stori eu cysylltiadau go iawn a sut y gall pobl eraill feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda’r hashnodau #DiwrnodIechydMeddwlPoblIfanc (#YMHD) a #CysylltunYstyrlon (#ConnectMeaningfully). Mae gan stem4 ystod eang o adnoddau sydd ar gael i ysgolion, pobl ifanc ac oedolion er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu dathlu Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a dysgu sut i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc.

 

Pwysigrwydd hybu llesiant da o oedran cynnar

Mae diwrnodau ymwybyddiaeth fel Diwrnod Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn hanfodol i sicrhau ein bod ni i gyd yn dysgu am iechyd meddwl pobl ifanc ac yn myfyrio arno. Gyda nifer y bobl ifanc sy’n wynebu problemau iechyd meddwl ar gynnydd, mae’n hanfodol ein bod yn cadw llygad ar lesiant y bobl ifanc o’n cwmpas ac yn ei gynnal.

Mae cael iechyd meddwl a llesiant da fel person ifanc yn bwysig iawn. Drwy gael y sylfeini emosiynol cadarn hyn gall pobl ifanc lywio bywyd bob dydd yn ogystal â’r adegau a’r sefyllfaoedd anodd y mae bywyd yn eu taflu atom o bryd i’w gilydd. Mae bod yn wydn ac yn ddigon cryf i ymdopi â meddyliau ac emosiynau negyddol yn ein helpu i ymdopi â chyfnodau ansicr, ond os nad yw pobl ifanc yn byw’n iach neu’n methu â byw bywyd iach, mae’n bosibl na fyddant yn tyfu i fod yn oedolion cyflawn, hapus.

Felly, beth all pobl ifanc ei wneud i sicrhau eu bod yn byw yn iach ac yn cynnal eu llesiant? Gallant roi cynnig ar un neu ragor o’r technegau canlynol: Gallent wneud rhai, neu bob un o’r canlynol:

  • lechyd corfforol – mae hyn yn cynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd er mwyn rhoi hwb i’ch endorffinau, a bwyta deiet cytbwys a maethlon.
  • Ymlacio – boed hynny gyda llyfr da, gwylio’ch hoff sioe deledu, neu roi pac mwd ar eich wyneb, chwiliwch am ffyrdd o ymlacio a dadflino.
  • Gorffwys – mae’n bwysig cael wyth awr o gwsg bob nos er mwyn sicrhau eich bod yn prosesu’r diwrnod a’ch bod wedi gorffwys digon ar gyfer diwrnod cyffrous arall.
  • Cylchoedd cymorth – siaradwch â’ch cysylltiadau er mwyn cysylltu’n ystyrlon, boed hynny â ffrindiau neu eich teulu, a gofalwch eich bod yn siarad â nhw ac yn dibynnu arnynt am gymorth a chefnogaeth.

 

Drwy gyfuno’r awgrymiadau hyn yn eich trefn ddyddiol, byddwch yn helpu i sicrhau nad yw adegau anodd yn mynd yn drech na chi a’ch bod yn gallu ymdopi ag unrhyw beth a all ddigwydd.

 

Sut y gall oedolion gynorthwyo pobl ifanc

Gall rhieni, gwarcheidwaid ac athrawon hefyd helpu i gynnal iechyd meddwl pobl ifanc drwy fod yn weithgar a chyflwyno cylchoedd cymorth. Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw gwrando; y rhan fwyaf o’r amser bydd pobl ifanc yn poeni na fydd neb eisiau gwrando na deall beth maen nhw’n mynd drwyddo ac yn ei brofi. Bydd cynnal perthynas agored a gonest gyda’r person ifanc yn ei helpu i roi ei ffydd ynoch chi ac i deimlo’n ddigon cyfforddus o’ch cwmpas i ymddiried ynoch.

Er mai gwrando yw’r cam cyntaf, rhaid i chi hefyd helpu i wneud iddo deimlo’n well, p’un a yw hynny’n golygu gwneud y pethau uchod, treulio amser ystyrlon gydag ef, neu’n ceisio cymorth proffesiynol. Yn ystod y camau hyn, rhowch wybod i’r person ifanc eich bod chi ar gael i fod yn gefn iddo, a’i gynnwys mewn unrhyw benderfyniadau fel ei fod yn parhau i deimlo bod rhywun yn gwrando arno a’i fod yn ddiogel.

 

Hyfforddiant a all helpu

Bydd y camau hyn yn helpu i gynnal llesiant meddyliol person ifanc, ond weithiau mae cael profiad mwy ymarferol a gweithredol yn ffordd well o ddeall a dysgu am iechyd meddwl.

Yma MHFA Cymrugallwn gynnig nifer o gyrsiau drwy ein hyfforddwyr profiadol a chwbl gymwys a fydd yn eich helpu i ddeall yn llawn sut i ofalu am lesiant ac iechyd meddwl person ifanc. Gallwn gynnig y canlynol:

 

Drwy ddewis unrhyw un o’r opsiynau hyfforddiant hyn, byddwch yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr adnoddau a’r gallu i gynnal iechyd meddwl person ifanc. Er y gall hyn ymddangos yn frawychus ac yn dipyn o gyfrifoldeb i ddechrau, bydd bod â’r hyder a’r ddealltwriaeth i helpu person ifanc sy’n cael trafferth gyda’i lesiant yn helpu i wneud byd o wahaniaeth.

I ddarganfod mwy amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedig, ewch i’n gwefan a helpwch i sicrhau hapusrwydd y bobl ifanc o’ch cwmpas.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop