Hyfforddiant Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Bobl Ifanc– Cwrs pum diwrnod

Cewch eich hyfforddi i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ar ein Rhaglen Hyfforddi Hyfforddwyr pum diwrnod.

Description

Beth ydyw?

Bydd yr hyfforddiant pum diwrnod hwn yn eich galluogi i ddod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a’ch galluogi i ddarparu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).

Pam hyfforddi i fod yn hyfforddwr?

P'un a ydych yn hyfforddwr llawrydd neu'n gweithio mewn sefydliad, mae bod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn fuddiol ac yn werth chweil.

Mae addysg iechyd meddwl yn flaenllaw mewn trafodaethau ar draws y byd, ac mae llawer o bobl yn cydnabod yr angen am fwy o ymwybyddiaeth ar draws y gymdeithas gyfan. Fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), mae gennych gyfle i ddylanwadu ar newidiadau mewn diwylliant ac agweddau o fewn cymunedau drwy gyflwyno’ch cyrsiau i amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd.

Wedi'i chydnabod yn rhyngwladol fel y ‘safon aur’ ym maes hyfforddiant iechyd meddwl, mae’r rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn seiliedig ar ymchwil fyd-eang a thystiolaeth. Fel hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), bydd gennych fynediad at adnoddau trwyddedig Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl er mwyn cyflwyno eich hyfforddiant gan sicrhau bod cyfranogwyr yn cael yr hyfforddiant mwyaf diweddar a dibynadwy sydd ar gael.

Sut y gallaf ddod yn hyfforddwr?

Darperir hyfforddiant Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn gyfan gwbl ar-lein. Byddwch yn cael hyfforddiant ar y fersiwn ar-lein / dysgu cyfunol, ond byddwch hefyd yn gallu cyflwyno'r cwrs yn yr ystafell ddosbarth.

Mae yna broses ymgeisio, felly cwblhewch y ffurflen isod i wneud cais.

Bythefnos cyn eich cwrs, cewch eich cofrestru ar y modiwlau ar-lein, a bydd gennych bythefnos i gwblhau'r rhag-ddysgu gofynnol: Modiwlau e-Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).

Mae strwythur yr wythnos o hyfforddiant i’w weld isod:

Diwrnod 1 a Diwrnod 2: Bydd hyfforddwyr cenedlaethol yn eich tywys trwy'r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl – mae hyn yn rhan hanfodol o'r hyfforddiant.

Diwrnod 3: Diwrnod Datblygu – Byddwch yn ymuno â seminarau i ehangu eich gwybodaeth fel hyfforddwr. Darperir y rhain gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl yn ogystal â phobl sydd â phrofiadau bywyd.

Diwrnod 4: Diwrnod Asesu – Byddwch yn cyflwyno rhan fach o'r cwrs tra bo hyfforddwyr cenedlaethol yn arsylwi arnoch. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gael profiad o gyflwyno yn ogystal â chael adborth.

Diwrnod 5: Polisïau a Gweithdrefnau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a'ch camau nesaf.

Yr hyn y byddwch yn ei gael gennym

Darperir yr holl adnoddau i’ch galluogi i gyflwyno cyrsiau
Cefnogaeth barhaus gan dîm hyfforddi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)
Cynhadledd flynyddol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

Byddwch yn gallu cyflwyno’r cyrsiau canlynol:

• Cyrsiau ar-lein / dysgu cyfunol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

• Cwrs deuddydd Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn yr ystafell ddosbarth

• Cwrs Gloywi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

• Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl

Ar ôl y cwrs

Ar ôl i chi gwblhau’r Hyfforddiant Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, bydd angen i chi gyd-ddarparu eich dau gwrs cyntaf o fewn chwe mis.
Er mwyn cyflwyno'r hyfforddiant bydd angen i chi brynu llawlyfrau ar gyfer pob cyfranogwr (wyneb yn wyneb) neu bob lle ar y modiwlau ar-lein (ar-lein / dysgu cyfunol)
Bydd angen i chi dalu ffi trwydded flynyddol (mae'r flwyddyn gyntaf wedi'i chynnwys, ac mae'ch trwydded yn ddilys o'r dyddiad y gwnaethoch gwblhau'r hyfforddiant hyfforddwr ymlaen).
Bydd angen i chi gyflwyno o leiaf dau gwrs y flwyddyn er mwyn cynnal eich trwydded.

Gallwch ond gyflwyno’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion neu’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc, gan ddibynnu ar ba un yr ydych wedi cael eich hyfforddi i’w gyflwyno. Gallwch uwchsgilio er mwyn cyflwyno'r ddau, os dymunwch wneud hynny, ar ôl i chi gyd-gyflwyno'ch dau gwrs cyntaf.

Sylwer: er mwyn mynychu’r hyfforddiant rhaid eich bod naill ai’n gweithio neu’n byw yng Nghymru. Fel rhan o’r drwydded, dim ond i bobl sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru y gallwch gyflwyno’r hyfforddiant iddynt.

Cysylltwch â ni ar gyfer archebion grŵp.

I ofyn am becyn ymgeisio ar gyfer cwrs Hyfforddiant Hyfforddwyr Cymorth cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), cysylltwch â ni isod.


*Sylwer, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn ystod yr hyfforddiant, argymhellir bod llesiant cyfranogwyr ar lefel briodol cyn iddynt fynychu.

Er y gall rhannu profiadau fod o fuddiol i'r profiad hyfforddi, rhaid i gyfranogwyr fod yn ymwybodol bod y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'i gynllunio i helpu cyfranogwyr i gefnogi eraill ac ni fwriedir iddi fod yn sesiwn therapi ar gyfer y cyfranogwr. Mae hyn er cysur pawb sy'n cymryd rhan.

*Sylwer, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn ystod yr hyfforddiant, argymhellir bod llesiant cyfranogwyr ar lefel briodol cyn iddynt fynychu.
Er y gall rhannu profiadau fod yn fuddiol i'r profiad hyfforddi, rhaid i gyfranogwyr fod yn ymwybodol bod y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'i gynllunio i helpu cyfranogwyr i gefnogi eraill ac ni fwriedir iddi fod yn sesiwn therapi ar gyfer y cyfranogwr. Mae hyn er cysur pawb sy'n cymryd rhan.
**Dim ond i'r rhai sy'n byw a/neu'n gweithio yng Nghymru y mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) wedi'i drwyddedu i ddarparu'r cwrs hyfforddi hwn iddynt. Bydd angen i gyfranogwyr o wledydd eraill sy'n dymuno cael hyfforddiant ar Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gysylltu â'r darparwr cenedlaethol sydd wedi’i drwyddedu i’w ddarparu yn eu gwlad.
cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop