Iechyd meddwl a bod yn ynysig

Iechyd meddwl a bod yn ynysig

Helo bawb,

Fy enw i yw Rhys, a fi yw’r Cynorthwyydd Prosiectau ar gyfer Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru.

Fe ddywedon ni y bydden ni’n cynnig gwybodaeth a chyngor ichi dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, felly dyma gyflwyno ein blog cyntaf. Fe benderfynon ni, gan fod llawer ohonom yn gorfod ynysu a gweithio gartref, y byddai’n syniad da rhannu rhywfaint o gyngor ynglŷn â gwneud hyn mewn ffordd iach. Mae llawer o’r cofnod hwn yn berthnasol i’r rheini sy’n ynysu yn unig, ond rydyn ni hefyd wedi cynnwys rhywfaint o wybodaeth sy’n benodol i waith.

Cysylltu ag eraill

Gall aros gartref am gyfnodau hir fod yn flinderus a gall beri inni deimlo’n unig. Wrth weithio gartref mae’n bosibl y byddwch yn teimlo eich bod ymhellach oddi wrth eich cydweithwyr. Gall gwneud galwadau fideo a llais i’ch cydweithwyr yn ystod oriau gwaith fod yn ffordd wych o deimlo eich bod mewn cysylltiad, a gall wrthbwyso rhywfaint o deimladau unig. Os oes gennych chi feddalwedd Microsoft Teams, mae’n hawdd gwneud hyn trwy’r cyfleuster sgwrsio. Fel arall, mae FaceTime neu Skype ar gael.

Y tu allan i oriau gwaith mae angen inni gadw mewn cysylltiad â’n hanwyliaid o hyd – yn enwedig y rheini a all fod yn agored i niwed. Gall cynnal sgyrsiau â phobl o’r tu allan i’n cartref helpu i’n hatgoffa bod pobl sy’n meddwl amdanom o hyd pan all pethau ymddangos yn unig iawn. Rhowch gynnig ar anfon negeseuon testun, neu gynnal galwad fideo neu lais gyda theulu a ffrindiau – mae hyd yn oed gemau ar-lein ar gael er mwyn i bobl eu chwarae a rhyngweithio gyda’i gilydd.

Gall anifeiliaid anwes hefyd fod yn ffordd wych o roi cysur, ac maen nhw’n gwneud cymdeithion gwych yn ystod cyfnodau ynysu. Os oes gennych chi un (neu lawer ohonynt!) chwaraewch gyda nhw neu rhowch gwtsh iddyn nhw. Wedi’r cyfan – mae hwn yn brofiad newydd iddyn nhw hefyd!

Gwnewch rywbeth gwahanol! Os oes gennych chi aelodau eraill yn eich cartref, treuliwch amser gyda nhw i ffwrdd o’r teledu: eisteddwch yn yr ardd neu chwaraewch gêm (rwy’n mynd i ddysgu sut i chwarae pocer).

Cadw’n heini

Mae’n hawdd meddwl, gan fod angen i ni aros yn y tŷ, y gallwn eistedd gartref a gwylio’r holl raglenni teledu ar yr holl wasanaethau ffrydio mewn pyliau. Ceisiwch beidio â gwneud hyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfyngu faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn gwylio’r teledu yn ystod y dydd fel nad ydych yn gorwneud pethau ac yn cau eich hunan i mewn yn gyson.

Rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael tywydd braf dros y dyddiau diwethaf hefyd – gadewch i ni fanteisio arno. Ewch am dro o gwmpas yr ardd (os oes gennych chi un) am ychydig. Cymerwch seibiant o’r sgriniau a gadewch i’ch corff amsugno’r fitamin D hwnnw.

Ar adeg ysgrifennu hwn, mae’n bosibl cael ymarfer corff y tu allan unwaith y dydd. Defnyddiwch y cyfle i gerdded, loncian neu redeg (gan gadw cyfyngiadau’r llywodraeth mewn cof), felly gadewch inni wneud y mwyaf o hynny hefyd.

Mae pobl yn teimlo eu bod wedi’u cyfyngu o ran cynnal eu ffitrwydd nawr bod y campfeydd wedi gorfod cau. Edrychwch ar ffyrdd y gallwch chi gyflawni’ch arferion ffitrwydd yn eich cartref eich hun. Gallwch greu eich trefn ffitrwydd eich hun neu ddod o hyd i fideos ar-lein gan arweinwyr ffitrwydd a fydd yn gallu eich tywys trwy ymarferion yn ddiogel. Mae rhai clybiau rhedeg hyd yn oed wedi creu rhediadau rhithwir i bobl eu cwblhau.

Peidiwch â diystyru pŵer glanhau! Gall tynnu llwch, defnyddio’r sugnydd llwch a sychu arwynebau olygu eich bod yn gwneud ymarfer corff ysgafn, a bydd cael cartref glân yn gwneud inni deimlo’n fwy cyfforddus a gall llai o annibendod ein helpu i ganolbwyntio.

Daliwch ati i ddysgu

A oes gennych chi bentwr o lyfrau sydd wedi bod ar eich rhestr ‘i’w darllen’ ers misoedd? Neu a oes un rydych chi wedi bod eisiau ei brynu ar-lein ond heb gael yr amser? Dyma’r cyfle perffaith i wneud hynny.

Mae yna lawer o adnoddau ar-lein i’ch helpu chi i ddysgu ac mae llawer ohonyn nhw ar gael am ddim. Mae gan YouTube filoedd o diwtorialau ar-lein ichi eu dilyn – efallai bod tasg DIY rydych chi wedi bod yn aros i’w gwneud ond dydych chi ddim yn siŵr sut, neu efallai bod rhywbeth y gallwch chi ei ddysgu er mwyn datblygu’ch gyrfa.

Nawr yw’r amser!

Rhoi

Er ei bod yn bwysig cadw ein hunain dan do cymaint â phosibl, mae yna bobl rydyn ni’n eu hadnabod sy’n agored i niwed ac sydd angen ein cymorth. Os ydych chi’n gallu darparu cyflenwadau i berson agored i niwed, gwnewch hynny’n ddiogel ac yn unol â’r canllawiau.

Un o’r ffyrdd eraill o helpu’r rheini sydd angen cymorth fwyaf yw gwneud galwad ffôn i rywun a all fod yn ynysu hefyd. Mae grwpiau lleol hefyd yn cael eu datblygu er mwyn helpu’r rheini mewn angen. Edrychwch ar-lein neu holwch eich rhwydwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae angen cymorth ar elusennau hefyd i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol sydd ganddynt, ac efallai y bydd yn rhaid iddynt addasu eu dulliau. Gall fod angen rhoddion neu wirfoddolwyr o’r gymuned arnynt er mwyn eu galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Helpwch nhw os gallwch chi.

Cymryd sylw

Cymerwch eiliad i archwilio’ch amgylchoedd.

Sefwch yn eich gardd a gwrandewch ar ba synau sydd yna, neu edrychwch – beth ydych chi’n ei weld? A oes rhywbeth nad ydych chi wedi sylwi arno o’r blaen? Yn aml rydyn ni’n sownd yn ein meddyliau ein hunain – rhowch gynnig ar arsylwi a sylwi mwy o’ch cwmpas er mwyn ehangu eich un chi.

Mae digonedd o adnoddau sy’n ymdrin ag ymwybyddiaeth ofalgar ar gael ar-lein – mae hyd yn oed apiau ar gael a all eich helpu i ddarganfod beth sy’n iawn i chi – mynnwch gipolwg.

Mae mathau eraill o adnoddau ymlacio sydd ar gael yn hawdd hefyd. Gallwch ddod o hyd i’r rhain ar YouTube ac ar apiau fel Headspace a Calm – i enwi ond ychydig.

Bwyta

Gall fod yn hawdd iawn troi at fwyd cysurus i’n helpu i ymdopi â’r straen, y gorbryder a’r unigedd yn ystod y cyfnod hwn ond, wrth inni dreulio llai o amser yn symud o gwmpas, ni allwn losgi’r gormodedd o galorïau a ddaw yn sgil bwyta byrbrydau.

Cadwch i fyny gyda bwyta pum ffrwyth a llysieuyn y dydd, a cheisiwch gynnal deiet cytbwys Mae perthynas rhwng yr hyn rydyn ni’n ei fwyta a sut rydyn ni’n teimlo ac, wrth gwrs, mae cynyddu faint o’r bwydydd hyn rydyn ni’n eu bwyta yn rhoi hwb i’n system imiwnedd hollbwysig.

Rhowch gynnig ar goginio gan ddefnyddio ryseitiau newydd, a gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon drwy gydol y dydd – peidiwch â dibynnu ar de a choffi i’ch helpu chi bara trwy’r dydd. Yfwch ddŵr, neu ychwanegwch ychydig o sgwash i’w wneud yn fwy blasus.

Cadw trefn

Codwch a pharatowch fel petaech yn mynd allan i’r gwaith. Cadwch at eich trefn arferol gymaint â phosibl. Defnyddiwch eich diwrnod fel y byddech fel arfer, a gadewch y gweithle ar ddiwedd y dydd.

Cymerwch seibiannau rheolaidd o’ch gweithle.

Gwiriwch eich amgylchedd gwaith hefyd. A yw eich man gwaith yn gyfforddus? Sut mae eich cadair? A ddylech chi symud o gwmpas ychydig yn fwy?

Gosodwch eich swyddfa gartref mewn ardal lle gallwch gael cymaint o olau ac awyru naturiol â phosibl a chadwch eich ardal yn rhydd o annibendod.

Gwybodaeth

Dilynwch ganllawiau’r llywodraeth a’r GIG a chwiliwch am ffynonellau gwybodaeth dibynadwy.

Mae cymaint o wybodaeth anghywir a dryslyd o gwmpas fel y gall fod yn anodd gwybod beth sy’n ffeithiol. Dilynwch sianeli swyddogol i gael arweiniad.

Cyfyngwch ar faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn gwylio’r newyddion ac yn darllen gwefannau newyddion er mwyn helpu i leihau gorbryder rhoi seibiant i chi’ch hun.

Dyna ni ar gyfer y post yma! Rwy’n gobeithio y bu’n ddefnyddiol ichi. Byddwn yn edrych ar lawer o bynciau gwahanol yn y dyfodol agos, felly cadwch lygad a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gynnwys newydd.

Gan nathan

Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has been the industry's standard dummy text ever since the 1500s, when an unknown printer took a galley of type and scrambled it to make a type specimen book. It has survived not only five centuries, but also the leap into electronic typesetting, remaining essentially unchanged.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop