Cyflwyniad i'r blog

Beth ydyn ni’n mynd i’w wneud, pwy sy’n mynd i’w wneud, a sut maen nhw’n mynd i’w wneud! Helo bawb, fy enw i yw Gwen Goddard a fi yw Arweinydd Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru. Rydym yn y busnes o hyfforddi pobl i gefnogi ei gilydd, a dydyn ni erioed wedi bod angen gwneud hynny mwy nag yr ydym ar hyn o bryd. Rydym yn angerddol ynglŷn â hyn, a gan nad ydym yn gallu hyfforddi pobl wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, rydyn ni wedi penderfynu defnyddio’r llwyfan hon i rannu cymaint o wybodaeth ag y gallwn – gwybodaeth y mae ei hangen arnoch chi, a’r hyn rydych chi’n yn gofyn inni amdani. Byddaf yn ysgrifennu rhai o’r blogiau, ond byddaf hefyd yn gofyn i weddill tîm MHFA Cymru gyfrannu – byddan nhw’n cyflwyno eu hunain hefyd. Rydyn ni’n ffodus iawn i gael tîm o hyfforddwyr, cynghorwyr ac eiriolwyr sydd mor amrywiol ac amryddawn. Rhyngom ni, mae gennym gyfoeth o wybodaeth sy’n seiliedig ar iechyd meddwl i’w rhannu. Byddwn ni hefyd yn gwahodd gwesteion i flogio neu i siarad â nhw ar ein podlediadau a fideos – pobl sy’n gallu siarad ar bynciau mwy penodol ac sydd â’u harbenigedd eu hunain y tu allan i fyd iechyd meddwl, sef pynciau rydyn ni’n credu y byddan nhw’n ddiddorol, yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol ichi. Gobeithiwn fod hon yn llwyfan defnyddiol i bawb. Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn sâl yn feddyliol – mae’n ymwneud â sicrhau ein bod ni i gyd yn aros yn iach yn feddyliol ac yn cefnogi ein gilydd i wneud hynny. Rhowch wybod inni beth ydych chi’n ei feddwl ohoni, a rhannwch wybodaeth os ydych chi’n meddwl y bydd yn helpu pobl eraill hefyd. Cymerwch ofal, Gwen

Gan nathan

Lorem Ipsum is simply dummy text of the printing and typesetting industry. Lorem Ipsum has been the industry's standard dummy text ever since the 1500s, when an unknown printer took a galley of type and scrambled it to make a type specimen book. It has survived not only five centuries, but also the leap into electronic typesetting, remaining essentially unchanged.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop