Beth ydyn ni’n mynd i’w wneud, pwy sy’n mynd i’w wneud, a sut maen nhw’n mynd i’w wneud!
Helo bawb, fy enw i yw Gwen Goddard a fi yw Arweinydd Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yng Nghymru. Rydym yn y busnes o hyfforddi pobl i gefnogi ei gilydd, a dydyn ni erioed wedi bod angen gwneud hynny mwy nag yr ydym ar hyn o bryd. Rydym yn angerddol ynglŷn â hyn, a gan nad ydym yn gallu hyfforddi pobl wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, rydyn ni wedi penderfynu defnyddio’r llwyfan hon i rannu cymaint o wybodaeth ag y gallwn – gwybodaeth y mae ei hangen arnoch chi, a’r hyn rydych chi’n yn gofyn inni amdani. Byddaf yn ysgrifennu rhai o’r blogiau, ond byddaf hefyd yn gofyn i weddill tîm MHFA Cymru gyfrannu – byddan nhw’n cyflwyno eu hunain hefyd. Rydyn ni’n ffodus iawn i gael tîm o hyfforddwyr, cynghorwyr ac eiriolwyr sydd mor amrywiol ac amryddawn. Rhyngom ni, mae gennym gyfoeth o wybodaeth sy’n seiliedig ar iechyd meddwl i’w rhannu. Byddwn ni hefyd yn gwahodd gwesteion i flogio neu i siarad â nhw ar ein podlediadau a fideos – pobl sy’n gallu siarad ar bynciau mwy penodol ac sydd â’u harbenigedd eu hunain y tu allan i fyd iechyd meddwl, sef pynciau rydyn ni’n credu y byddan nhw’n ddiddorol, yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol ichi. Gobeithiwn fod hon yn llwyfan defnyddiol i bawb. Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn sâl yn feddyliol – mae’n ymwneud â sicrhau ein bod ni i gyd yn aros yn iach yn feddyliol ac yn cefnogi ein gilydd i wneud hynny. Rhowch wybod inni beth ydych chi’n ei feddwl ohoni, a rhannwch wybodaeth os ydych chi’n meddwl y bydd yn helpu pobl eraill hefyd. Cymerwch ofal, Gwen