Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn gallu cyrchu'r fersiwn ar-lein o Lawlyfr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). You will be able to access to this on your browser, phone or tablet. If you would like a physical copy of the manual, you will also have the option to purchase this.
Mae’r cwrs e-Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn addysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr, a gellir ei gwblhau o gyfleustra eich cartref neu swyddfa, heb fod angen teithio, ac ar eich cyflymder eich hun, drwy fodiwlau rhyngweithiol a gweminarau ar-lein.
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r cymorth a ddarperir i berson sy’n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n profi problem iechyd meddwl bresennol sy’n gwaethygu, neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. Rhoddir y Cymorth Cyntaf hyd nes y derbynnir y cymorth proffesiynol priodol neu nes bydd yr argyfwng wedi'i ddatrys.