Description
Pam mynychu’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion?
Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn gwrs 12 awr sy’n addysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr.
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r cymorth a ddarperir i berson sy’n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n profi problem iechyd meddwl bresennol sy’n gwaethygu, neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. Rhoddir y Cymorth Cyntaf hyd nes y derbynnir y cymorth proffesiynol priodol neu nes bydd yr argyfwng wedi'i ddatrys
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn seiliedig ar ganllawiau rhyngwladol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae cynnwys y cwricwlwm yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda mewnbwn gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ymchwilwyr ac eiriolwyr defnyddwyr.
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Fel cyfranogwr, byddwch yn gwella’ch gwybodaeth am fathau o salwch meddwl a’u hymyriadau, gwybodaeth am strategaethau Cymorth Cyntaf priodol, a hyder wrth helpu unigolion sy’n profi problem iechyd meddwl. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys y canlynol:
Datblygu problemau iechyd meddwl:
• Iselder
• Problemau gorbryder
• Seicosis
• Problemau’n ymwneud â defnyddio sylweddau
Argyfyngau iechyd meddwl:
• Meddyliau ac ymddygiadau hunanladdol
• Hunan-niwed nad yw'n hunanladdol
• Pyliau o banig
• Digwyddiadau trawmatig
• Cyflyrau seicotig difrifol
• Effeithiau difrifol sy’n deillio o ddefnyddio alcohol neu gyffuriau eraill
• Ymddygiadau ymosodol
*Sylwer, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn ystod yr hyfforddiant, argymhellir bod llesiant cyfranogwyr ar lefel briodol cyn iddynt fynychu.
Er y gall rhannu profiadau fod yn fuddiol i'r profiad hyfforddi, rhaid i gyfranogwyr fod yn ymwybodol bod y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'i gynllunio i helpu cyfranogwyr i gefnogi eraill ac ni fwriedir iddi fod yn sesiwn therapi ar gyfer y cyfranogwr. Mae hyn er cysur pawb sy'n cymryd rhan.
**Dim ond i'r rhai sy'n byw a/neu'n gweithio yng Nghymru y mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) wedi'i drwyddedu i ddarparu'r cwrs hyfforddi hwn iddynt. Bydd angen i gyfranogwyr o wledydd eraill sy'n dymuno cael hyfforddiant ar Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gysylltu â'r darparwr cenedlaethol sydd wedi’i drwyddedu i’w ddarparu yn eu gwlad.
Cysylltwch â ni ar gyfer archebion grŵp.
Mental Health First Aid has been adapted for Wales by Mental Health First Aid Wales Ltd.


