Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion – Cwrs deuddydd (yn y dosbarth)

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn gwrs 12 awr sy’n addysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr...

This product is currently out of stock and unavailable.

Description

Pam mynychu’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion?

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn gwrs 12 awr sy’n addysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr.

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r cymorth a ddarperir i berson sy’n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n profi problem iechyd meddwl bresennol sy’n gwaethygu, neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. Rhoddir y Cymorth Cyntaf hyd nes y derbynnir y cymorth proffesiynol priodol neu nes bydd yr argyfwng wedi'i ddatrys

Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn seiliedig ar ganllawiau rhyngwladol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Mae cynnwys y cwricwlwm yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda mewnbwn gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, ymchwilwyr ac eiriolwyr defnyddwyr.

Beth fyddaf yn ei ddysgu?

Fel cyfranogwr, byddwch yn gwella’ch gwybodaeth am fathau o salwch meddwl a’u hymyriadau, gwybodaeth am strategaethau Cymorth Cyntaf priodol, a hyder wrth helpu unigolion sy’n profi problem iechyd meddwl. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys y canlynol:

Datblygu problemau iechyd meddwl:

• Iselder

• Problemau gorbryder

• Seicosis

• Problemau’n ymwneud â defnyddio sylweddau

Argyfyngau iechyd meddwl:

• Meddyliau ac ymddygiadau hunanladdol

• Hunan-niwed nad yw'n hunanladdol

• Pyliau o banig

• Digwyddiadau trawmatig

• Cyflyrau seicotig difrifol

• Effeithiau difrifol sy’n deillio o ddefnyddio alcohol neu gyffuriau eraill

• Ymddygiadau ymosodol

*Sylwer, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn ystod yr hyfforddiant, argymhellir bod llesiant cyfranogwyr ar lefel briodol cyn iddynt fynychu.
Er y gall rhannu profiadau fod yn fuddiol i'r profiad hyfforddi, rhaid i gyfranogwyr fod yn ymwybodol bod y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl wedi'i gynllunio i helpu cyfranogwyr i gefnogi eraill ac ni fwriedir iddi fod yn sesiwn therapi ar gyfer y cyfranogwr. Mae hyn er cysur pawb sy'n cymryd rhan.
**Dim ond i'r rhai sy'n byw a/neu'n gweithio yng Nghymru y mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) wedi'i drwyddedu i ddarparu'r cwrs hyfforddi hwn iddynt. Bydd angen i gyfranogwyr o wledydd eraill sy'n dymuno cael hyfforddiant ar Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gysylltu â'r darparwr cenedlaethol sydd wedi’i drwyddedu i’w ddarparu yn eu gwlad.

Cysylltwch â ni ar gyfer archebion grŵp.

Mae cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion bellach ar gael fel cymhwyster.

I ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), bydd angen i chi fynychu’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn ei gyfanrwydd. Ar ddiwedd y cwrs cewch gyfle i gwblhau llyfr gwaith achrededig. Bydd angen i'ch hyfforddwr asesu'r llyfr gwaith cyn dyfarnu'r cymhwyster i chi.

Achredir cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) gan Agored Cymru, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.

Mental Health First Aid has been adapted for Wales by Mental Health First Aid Wales Ltd.

Additional information

Location

Training in Mind Office, Blaenavon

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop