Description
Ar gael i gyfranogwyr unigol a grwpiau sy'n dymuno archebu lle.
Mae’r cwrs e-Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn addysgu oedolion sut i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr, a gellir ei gwblhau o gyfleustra eich cartref neu swyddfa, heb fod angen teithio, ac ar eich cyflymder eich hun, drwy fodiwlau rhyngweithiol a gweminarau ar-lein.
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r cymorth a ddarperir i berson sy’n datblygu problem iechyd meddwl, sy’n profi problem iechyd meddwl bresennol sy’n gwaethygu, neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. Rhoddir y Cymorth Cyntaf hyd nes y derbynnir y cymorth proffesiynol priodol neu nes bydd yr argyfwng wedi'i ddatrys.
Cliciwch yma i weld strwythur y cwrs.
Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn gallu cyrchu'r fersiwn ar-lein o Lawlyfr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).
Ar gyfer sefydliadau sy’n dymuno archebu mwy nag un lle ar gwrs agored (gweler y dyddiadau uchod), cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i orders@mhfawales.org
Cysylltwch â ni ar gyfer archebion grŵp.
Mae’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion bellach ar gael fel cymhwyster ar gyfer archebion grŵp.
I ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), bydd angen i chi fynychu’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) i Oedolion yn ei gyfanrwydd. Ar ddiwedd y cwrs cewch gyfle i gwblhau llyfr gwaith achrededig. Bydd angen i'ch hyfforddwr asesu'r llyfr gwaith cyn dyfarnu'r cymhwyster i chi.
Achredir cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) gan Agored Cymru, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.