Mae MHFA Wales Ltd yn fenter gymdeithasol sy’n darparu hyfforddiant ym meysydd iechyd meddwl a llesiant, gwasanaeth Cynrychiolydd Person Perthnasol statudol, cynllun ymgynghori ar bolisïau iechyd meddwl ar gyfer sefydliadau, gwasanaeth cwnsela, a gwasanaeth cyfieithu Cymraeg yr ydym yn ei gynnig ar gyfraddau cymorthdaledig i sefydliadau elusennol. Rydym hefyd yn cynnig y cwrs ASIST ac yn dal y drwydded ar gyfer Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).
Mae MHFA Wales LTD wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch yn ystod ac ar ôl eich perthynas waith gyda ni, ac yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau preifatrwydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth rydych wedi'i rhoi i ni amdanoch chi'ch hun a'r hyn y mae asiantaethau ac unigolion eraill wedi'i ddweud wrthym amdanoch.
Mae MHFA Wales Ltd yn “rheolwr data”. Mae hyn yn golygu ein bod yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn cadw ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch. Mae’n ofynnol i ni, o dan ddeddfwriaeth diogelu data, eich hysbysu am yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Mae'r hysbysiad hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n dymuno defnyddio ein gwasanaethau hyfforddi. Nid yw'r hysbysiad hwn yn rhan o unrhyw gontract i ddarparu gwasanaethau. Gallwn ddiweddaru'r hysbysiad hwn unrhyw bryd.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn, ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd arall y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu neu’n prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch, fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham yr ydym yn defnyddio gwybodaeth o’r fath.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o fanylion am sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Rheolwr Data ar 01495 707360.
Byddwn yn cydymffurfio â’r gyfraith diogelu data. Mae hyn yn nodi bod rhaid i’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch fodloni'r gofynion canlynol:
Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018 (GDPR) yn nodi mai dim ond os oes gennym sail gyfreithlon i wneud hynny y gallwn brosesu neu rannu eich gwybodaeth. Rydym yn dibynnu ar y ‘sail gyfreithlon’ ganlynol i brosesu eich gwybodaeth:
Cydsyniad – Pan fyddwch yn gwneud cais i ddod ar un o’n cyrsiau hyfforddi rydych yn rhoi cydsyniad i ni brosesu eich data personol.
Buddiannau cyfreithlon – gall fod yn briodol i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd y byddech yn rhesymol yn disgwyl i ni wneud hynny, neu pan allwn ddangos gyda thystiolaeth bod gennym gyfiawnhad cymhellol dros brosesu eich data. Pan fyddwn yn dibynnu ar fuddiannau cyfreithlon byddwn yn sicrhau ein bod yn diogelu eich hawliau ac yn diogelu eich buddiannau bob amser.
Rydym yn prosesu eich data i reoli ein perthynas â chi neu â'ch busnes, datblygu ffyrdd newydd o ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a thyfu ein busnes, datblygu a chynnal gweithgareddau marchnata, astudio sut mae ein cwsmeriaid yn defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau gennym ni a chan sefydliadau eraill, datblygu a rheoli ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, cadw ein cofnodion yn gyfredol, gweithio allan pa rai o'n cynhyrchion a’n gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi a dweud wrthych amdanynt, datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a'r symiau yr ydym yn eu codi amdanynt, a rheoli taliadau cwsmeriaid.
Mae’r wybodaeth a gawn yn yr holiadur rydych yn ei gwblhau cyn cwrs yn cynnwys gwybodaeth y mae GDPR yn nodi ei bod yn fwy sensitif. Gelwir hyn yn “ddata categori arbennig”. Rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithlon ganlynol i brosesu’r wybodaeth benodol hon:
Cydsyniad – Mae ein holiadur cyn cwrs yn gofyn am eich cydsyniad i brosesu gwybodaeth mewn perthynas â’ch ethnigrwydd, anabledd penodol a’ch rhywioldeb. Mae’r data hwn yn cael ei ddosbarthu’n “ddata categori arbennig”. Rydym yn prosesu'r data hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwybodaeth sy'n ein galluogi i hwyluso dull o ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n briodol ar gyfer eich anghenion penodol. Rydym hefyd yn defnyddio'r data i nodi meysydd lle nad ydym yn diwallu anghenion cymunedol. Mae'r data hwn yn ddienw.
Mae’r testun data wedi rhoi cydsyniad penodol i brosesu’r data personol hynny at un neu fwy o ddibenion penodol.
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch oddi wrth:
Dim ond gyda’r canlynol y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol, oni bai ein bod yn cael eich cydsyniad penodol:
Mae'n ofynnol i'n holl ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti gymryd mesurau diogelwch priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'n polisïau. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio’ch data personol at eu dibenion eu hunain. Rydym ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â thrydydd partïon eraill, er enghraifft yng nghyd-destun y posibilrwydd o werthu neu ailstrwythuro’r busnes. Mae’n bosibl y bydd angen i ni hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol â rheoleiddiwr neu i gydymffurfio fel arall â’r gyfraith.
Bydd trydydd partïon ond yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â’n cyfarwyddiadau a lle maent wedi cytuno i drin yr wybodaeth yn gyfrinachol a’i chadw’n ddiogel.
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli’n ddamweiniol, ei defnyddio neu ei chyrchu mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei datgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad at eich gwybodaeth bersonol i'r gweithwyr, yr asiantau, y contractwyr a’r trydydd partïon eraill hynny sydd ag angen busnes i wybod. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau diogelwch data a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am amheuaeth o dorri rheolau pan fo’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bo angen i gyflawni’r dibenion y gwnaethom ei chasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer a ph'un a allwn gyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol cymwys.
O dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y byddwn yn gwneud eich gwybodaeth bersonol yn ddienw fel na ellir ei chysylltu â chi mwyach ac, os felly, gallwn ddefnyddio gwybodaeth o’r fath heb roi rhybudd pellach i chi. Pan na fyddwch yn cyrchu ein gwasanaethau mwyach, byddwn yn cadw ac yn dinistrio eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn unol â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol.
O dan rai amgylchiadau, yn ôl y gyfraith mae gennych yr hawliau canlynol:
Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol (nac i arfer unrhyw un o'r hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os yw'n amlwg bod eich cais am fynediad yn ddi-sail neu'n ormodol. Fel arall, efallai y byddwn yn gwrthod cydymffurfio â’r cais o dan amgylchiadau o’r fath.
Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych i’n helpu i gadarnhau pwy ydych a sicrhau eich hawl i gael mynediad at yr wybodaeth (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch priodol arall i sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i unrhyw berson nad oes ganddo hawl i'w derbyn.
Pan ydych wedi rhoi eich cydsyniad i gasglu, prosesu a throsglwyddo eich gwybodaeth bersonol at ddiben penodol, mae gennych yr hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer y gwaith prosesu penodol hwnnw ar unrhyw adeg. Unwaith y byddwn wedi derbyn hysbysiad eich bod wedi tynnu eich cydsyniad yn ôl, ni fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth at y diben neu’r dibenion y gwnaethoch gytuno iddynt yn wreiddiol mwyach, oni bai bod gennym sail gyfreithlon arall dros wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Rydym yn cadw'r hawl i ddiweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn unrhyw bryd, a byddwn yn rhoi hysbysiad preifatrwydd newydd i chi pan fyddwn yn gwneud unrhyw ddiweddariadau sylweddol. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn eich hysbysu mewn ffyrdd eraill o bryd i’w gilydd am brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Os byddwch yn dewis peidio â rhoi’r wybodaeth bersonol hon i ni, fe allai oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Gallai olygu na allwn ddarparu'r hyfforddiant yr ydych wedi'i archebu gyda ni.
Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddweud wrthych am gynhyrchion a chynigion perthnasol. Dyma'r hyn yr ydym yn ei olygu pan ydym yn sôn am ‘farchnata’.
Rydym yn astudio'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch i ffurfio barn ar yr hyn y credwn y gallech fod ei eisiau neu ei angen, neu'r hyn a allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut yr ydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion all fod yn berthnasol i chi.
Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i anfon negeseuon marchnata atoch a gallwch ofyn i ni stopio unrhyw bryd.
Rhowch wybod i ni os ydych yn anhapus gyda’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Cysylltwch â’r Rheolydd Data ar 01495 707360 neu ysgrifennwch atom yn:
MHF Wales LTD,
24 George Street,
Pontypool,
Torfaen,
NP4 6BY.
Mae gennych yr hawl hefyd i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae gwybodaeth ar eu gwefan ynglŷn â sut i roi gwybod am bryder.