Hysbysfwrdd

In this section we will be updating you on any changes that we make to the website or course.

Diweddariad: 19/7/2022 - Mae'r gofrestr cyrsiau wedi cael ei diweddaru fel y gellir ei defnyddio ar gyfer pob un o gyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru. Mae'n ddogfen PDF y gellir ei golygu fel y gallwch ychwanegu enwau cyfranogwyr at y ffeil yn uniongyrchol. Bydd angen i chi ei lawrlwytho er mwyn ei golygu.

Diweddariad: 15/7/2022 – Mae'r ystadegau ar hunanladdiad wedi cael eu diweddaru ar y cwrs Gloywi i Oedolion. Byddwn yn diweddaru'r cyrsiau eraill dros yr wythnos nesaf.

Diweddariad: 19/1/2022 – Mae Adroddiad diweddaraf y Samariaid ar Hunanladdiad yng Nghymru ar gael yma: Y Data Diweddaraf ar Hunanladdiad.

Diweddariad: 25/8/2021 – Mae'r adnoddau ar gyfer y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion ar-lein a’r cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc ar-lein bellach ar gael ar y dudalen Adnoddau.

Diweddariad: 25/8/2021 – Mae’r Cwrs Gloywi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oedolion yn yr ystafell ddosbarth bellach ar gael ar y dudalen Adnoddau

Diweddariad: 30/7/2021 – Gallwch nawr greu proffil cyhoeddus ar gyfer tudalen ‘Dod o hyd i hyfforddwr’. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin i hyfforddwyr.

Diweddariad: 30/7/2021 – Mae'r uwchsgilio ar gyfer cyflwyno wyneb yn wyneb bellach ar gael i bob hyfforddwr sy'n dymuno cyflwyno'r fersiwn wyneb yn wyneb o’r rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Anfonwch e-bost at admin@mhfawales.org i gael mynediad at hwn.

Diweddariad: 29/7/2021 – Mae’r gweithgaredd stigma wedi’i dynnu o fersiynau ystafell ddosbarth y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a’r cwrs Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl.

Diweddariad: 7/6/2021 – Mae canllawiau newydd ar gyfer hyfforddwyr sy'n sefydlu cyrsiau ar-lein ac ar sut i ddefnyddio'r Gwiriadur Cyrsiau ar gael yn yr adran Adnoddau.

Diweddariad: 30/4/2021 – Mae Vitrium bellach wedi'i integreiddio i'r cwrs. Nid oes rhaid i gyfranogwyr gofrestru mwyach er mwyn cael mynediad at fersiwn ar-lein y llawlyfr, nac aros am gymeradwyaeth cyn cael mynediad at y llawlyfr y bydd ei angen arnynt er mwyn mynd trwy'r hwb e-ddysgu. Ni fydd y ddolen i borth mewngofnodi Vitrium yn gweithio mwyach.

Diweddariad: 1/4/2021 – Gallwch osod cyfrinair ar gyfer cyfranogwyr pan fyddwch yn eu hychwanegu yn hytrach na defnyddio'r cyfrinair a gynhyrchir yn awtomatig.

Diweddariad: 8/2/2021 – Mae ‘Sut i weld tystysgrifau cyfranogwyr’ wedi cael ei ychwanegu at yr adran Cwestiynau Cyffredin

Diweddariad: 8/2/2021 – Rydym wedi cynyddu nifer y cyfranogwyr a all fynychu gweminar. Mae bellach yn isafswm o bedwar cyfranogwr ac uchafswm o 12 cyfranogwr.

Diweddariad: 7/1/2021 – Mae gennym broblem lle nad yw defnyddwyr yn cael yr e-bost sy’n cynnwys eu manylion mewngofnodi. Rydym wedi hysbysu cwmni'r wefan ac wedi gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb i'r mater hwn.

Diweddariad: 7/1/2021 – Mae defnyddwyr bellach yn cael eu cofrestru ar y cwrs yn awtomatig ac nid oes angen iddynt gael cymeradwyaeth gan Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) cyn y gallant ddechrau’r modiwlau.

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop