Ychydig o wybodaeth gan un o dîm MHFA Cymru am ei gwaith gyda phobl agored i niwed a sut effeithiwyd ar hynny yn ystod y sefyllfa bresennol. Gall hyn fod o ddiddordeb i’r rhai ohonoch sydd ag anwyliaid mewn gofal preswyl ar hyn o bryd.
Helo bawb, fy enw i yw Clare ac rwy’n Gynrychiolydd Unigolion Perthnasol. Mae hynny’n dipyn o lond ceg, a dweud y gwir, on’d yw?
Yr hyn mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd yw fy mod i’n eiriolwr. Rwy’n helpu pobl sy’n byw mewn cartrefi preswyl neu gartrefi nyrsio pan benderfynwyd na allan nhw wneud penderfyniadau ynghylch ble y dylent fyw, a’r ffordd orau o ofalu amdanynt.
Byddai fy wythnos waith arferol yn golygu ymweld â llawer o gartrefi gofal o amgylch De Cymru, gwirio sut hwyl sydd ar y bobl rwy’n eu cynrychioli a darllen cynlluniau gofal a chofnodion eraill.
Weithiau, pan fydd rhywun yn arbennig o anhapus yn eu cartref neu pan nad yw pethau fel y dylent fod, gellid mynd â’u hachos i’r Llys Gwarchod, felly efallai y bydd angen imi ysgrifennu adroddiadau, neu drafod pethau gyda chyfreithwyr.
Felly mae’n rhaid imi wneud yn siŵr fy mod i’n gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth fel y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid – a allai swnio fel llawer gormod i feddwl amdanynt, ond maen nhw’n ddarnau pwysig iawn o ddeddfwriaeth sy’n helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn cynnal eu hawliau!
“Rwy’n meddwl bod fy swydd yn ddiddorol iawn – mae fy mhartner yn meddwl fy mod i’n treulio fy niwrnod yn cael paneidiau o de ac yn sgwrsio â phobl, ond mae mwy iddi na hynny – rwy’n addo”.
Fy ngwaith i yw ceisio sicrhau bod sefyllfaoedd y bobl rwy’n eu cynrychioli y gorau y gallant fod iddynt.
Gallai hyn olygu gofyn p’un a ellir gwneud pethau mewn ffordd wahanol, lai cyfyngol a gwneud yn siŵr bod yr hyn sy’n cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth ac arferion gorau. Gallai hefyd gynnwys gwneud yn siŵr bod gofalwyr neu weithwyr proffesiynol eraill yn gwybod beth sy’n bwysig i’r preswylydd – er enghraifft: os oedd rhywun bob amser yn arfer gwylio’r pêl-droed ar nos Wener a bod hynny’n rhywbeth yr oedd ef bob amser yn ei fwynhau, ond nad yw hynny’n digwydd bellach ers iddo symud i ofal preswyl, fy ngwaith i fyddai gofyn pam a cheisio gweld p’un a ellid hwyluso hynny.
Felly, er ei bod efallai’n ymddangos ar yr wyneb fy mod i’n treulio fy nyddiau yn sgwrsio ac yn gofyn llawer o gwestiynau i bobl, o dan hynny mae rhesymau y tu ôl i bopeth rwy’n ei wneud a’r hyn rwy’n ei ofyn.
Ac yna digwyddodd pandemig y coronafeirws!
Yn sydyn, er mwyn diogelu ac amddiffyn pob preswylydd, dechreuodd cartrefi gofal fabwysiadu polisi cocŵn a oedd yn atal pob ymwelydd. Ni ddigwyddodd hyn i gyd ar unwaith; mae’n debyg ei bod wedi cymryd rhyw wythnos i bob cartref gael ei gau ac i waith fel yr oedden ni’n ei adnabod newid yn llwyr.
Beth am y trigolion rwyf i wedi bod yn ymweld â nhw? Sut maen nhw’n mynd i ymdopi â’r newidiadau hyn? Roedd yn ymddangos, yn ddyddiol, bod mwy a mwy o newidiadau’n cael eu gwneud i fywyd bob dydd, ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd eu deall, ond sut fyddai fy nghleientiaid, sef preswylwyr oedrannus iawn â dementia yn aml, neu fathau eraill o ddiagnosis a fyddai’n effeithio ar eu gallu gwybyddol, yn ymdopi â’r newidiadau hyn?
Ochr yn ochr â hyn, roedd ansicrwydd fy swydd – sut fydd hi’n gallu parhau pan na allaf i ymweld â chartrefi gofal? Ac wedyn yn bersonol – gydag ysgol a meithrinfeydd fy mhlant yn cau sut fyddwn i’n ymdopi â gwneud fy ngwaith a gofalu am fy mhlant? Goblygiadau ariannol gwaith, nid yn unig i mi ond hefyd a yw fy mhartner mewn perygl? Roedd yn gyfnod llawn straen.
Ac wedyn yn bersonol – gydag ysgol a meithrinfeydd fy mhlant yn cau sut byddwn i’n jyglo gwneud fy ngwaith a gofalu am fy mhlant? Goblygiadau ariannol gwaith, nid yn unig i mi ond hefyd fy mhartner, mewn perygl? Roedd yn gyfnod llawn straen.
Roedd hi’n teimlo fel petawn ni’n ffarwelio â’n hen fywyd ddydd Gwener, 20 Mawrth.
Sut fyddai hynny’n gweithio?
Felly bellach rydyn ni ychydig wythnosau i mewn i’n bywyd newydd. Mae’n dal yn fater o jyglo wrth geisio cadw’r cydbwysedd rhwng fy ngwaith, gwaith fy ngŵr, a gweithgareddau ar gyfer fy nwy ferch, ond hefyd amser i gofleidio a mwynhau’r amser hwn rydyn ni wedi cael ein gorfodi i’w dreulio gyda’n gilydd.
O ran fy ngwaith, wel, mae hynny’n parhau ond mewn ffordd wahanol iawn.
Wrth gwrs, ni allaf fynd ar ymweliadau â chartrefi gofal bellach, ond rwy’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda fy nghleientiaid, gorau ag y gallaf, gan ddefnyddio cyfleusterau galwadau ffôn a fideo.
Yn bennaf, hyd yn hyn, mae’r preswylwyr rwy’n eu cefnogi wedi profi nifer o newidiadau sylweddol i’w bywyd a’u harferion dyddiol. Mae peidio â chael ymwelwyr teuluol yn amlwg wedi cael effaith enfawr ar bobl, a’m gwaith i bellach yw ceisio gweld sut mae hynny’n cael ei reoli a lleihau’r niwed gymaint â phosibl.
Mae nifer o’m cleientiaid yn sefyll allan yn arbennig imi hefyd, sef y rhai rwy’n poeni amdanynt yn fwy na rhai eraill. Roedd rhai wedi bod yn gweithio tuag at fod yn fwy annibynnol gyda llawer o fynediad cymunedol a gweithgareddau sydd bellach wedi dod i ben wrth gwrs, ac rwy’n poeni am yr effeithiau y bydd hyn yn eu cael arnynt dros y tymor hwy, yn enwedig gan ei bod yn debygol y bydd preswylwyr mewn cartrefi gofal yn wynebu’r cyfyngiadau hyn am y cyfnod hiraf gan mai nhw sydd fwyaf agored i’r coronafeirws hwn.
Felly bellach, mewn rhai ffyrdd, mae fy swydd yn bwysicach nag erioed o’r blaen, o ran cynorthwyo pobl i gael y gofal gorau, yn y modd lleiaf cyfyngol wrth gynnal eu diogelwch. Mae’n dipyn o her, fel y byddwch yn cytuno, rwy’n siŵr, ond mae’n un y byddaf i ac eraill sy’n gwneud yr un swydd yn gwneud ein gorau i’w chyflawni yn ystod y cyfnod rhyfedd iawn hwn yr ydym yn canfod ein hunain ynddi.