Mae’n Amser i Siarad am ein hiechyd meddwl

 Er ein bod yn gwybod efallai bod gennym gylch cymorth clòs a chariadus o’n cwmpas, gall fod yn anodd siarad â’n ffrindiau a’n teulu am ein hiechyd meddwl a’n llesiant. Yn aml mae ofn cael ein beirniadu gan y rhai sydd agosaf atom a’r embaras sy’n dilyn hynny yn ein hatal rhag siarad am ein teimladau.

Fel arall, efallai y byddwn yn sylwi nad yw hwyliau rhywun rydyn ni’n agos ato cystal ag arfer a’i bod yn ymddangos fel petai’n dioddef yn dawel. Er ein bod ni eisiau siarad â’r sawl hwnnw, gall fod yr un mor anodd gwybod sut i ofyn y cwestiynau cywir.

Fodd bynnag, siarad am iechyd meddwl – p’un ai chi yw’r un sy’n dioddef ai peidio – yw’r cam cyntaf bob amser tuag at ddod o hyd i’r cymorth a’r gefnogaeth gywir. Mae siarad â theulu a ffrindiau yn helpu i leihau’r baich meddyliol y gallech fod yn ei deimlo, tra gall dweud dim byd weithiau fod yn beryglus i’r sawl sy’n dioddef yn y pen draw.

Dyma pam mae Diwrnod Amser i Siarad mor bwysig, er mwyn codi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi i siarad yn ddi-ofn am faterion iechyd meddwl a llesiant. Mae’n bryd chwalu’r stigma o gwmpas siarad am iechyd meddwl gydag eraill.

 

Nid aur dilin yw distawrwydd bob amser

Mor aml, fel cymdeithas, rydyn ni wedi dysgu i gadw ein meddyliau a’n teimladau i’n hunain, ac yn anffodus, mae dioddef yn dawel wedi dod yn norm, yn ffenomen y mae Mind yn ei galw’n ‘dawedogrwydd Prydeinig’Yn eu hastudiaeth yn 2019 mewn partneriaeth â McVitie’s Mind canfu Mind bod 46% o oedolion Prydain wedi dweud eu bod yn cadw eu pryderon iddyn nhw eu hunain er bod 82% yn credu y byddai cael sgwrs ystyrlon yn fuddiol i’w hiechyd meddwl. Canfu’r astudiaeth hefyd bod 19% o’r oedolion hynny sy’n byw gyda rhywun yn treulio 10 munud neu lai y dydd yn cael sgwrs ystyrlon gyda’r person neu’r bobl eraill y maent yn byw gyda nhw.

O’r astudiaeth hon, gallwn weld, fel cymdeithas, ein bod eisiau gallu siarad yn agored am ein hiechyd meddwl a’n llesiant ond, fel y canfu’r astudiaeth hefyd, mae ofn cael ein barnu, dangos gwendid a theimlo embaras yn atal hyn rhag digwydd mewn rhai achosion. Drwy beidio â thrafod yr emosiynau rydyn ni’n eu teimlo, gallwn ni ynysu ein hunain oddi wrth y rhai sydd agosaf atom, mewn gwirionedd, yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae siarad ag eraill, boed y rheini’n ffrindiau, teulu, neu grwpiau cymunedol, yn ysgafnhau’r baich trwm y gall salwch meddwl ei osod arnom; mae cario’r pwysau ar eich pen eich hun yn heriol, yn peri ichi deimlo’n ynysig a gall eich llethu yn y pen draw. Mind and Rethink Mental Illness Mae elusennau Mind a Rethink Mental Illness yn gobeithio chwalu’r stigma o gadw teimladau dan glo gyda’u diwrnod ymwybyddiaeth, sef Diwrnod Amser i Siarad.

 

Beth yw Diwrnod Amser i Siarad?

sy’n cael ei gynnal gan Mind a Rethink Mental Illness Mae Diwrnod Amser i Siarad wedi cael ei ddathlu ar 2 Chwefrornd ers 2014, a’i nod yw annog pobl i ddechrau sgyrsiau am iechyd meddwl. Mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, ac mae gan rai iechyd meddwl gwell nag eraill, ond nid oes amheuaeth bod y gallu i siarad am ein teimladau gydag eraill yn rym a all newid diwrnod rhywun, neu hyd yn oed ei fywyd, er gwell.

Nod Diwrnod Amser i Siarad yw cael pobl a chymunedau i deimlo’n fwy cyfforddus i fod yn agored am eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Drwy gael mwy a mwy o sgyrsiau am sut rydyn ni’n teimlo, bydd hyn yn helpu i chwalu’r stigma y mae rhai pobl yn ei gysylltu ag iechyd meddwl. Yn eu tro, bydd y rheini sy’n dioddef yn teimlo eu bod yn gallu codi eu llais a cheisio’r cymorth sydd ei angen arnynt, a bydd hefyd yn helpu eraill i deimlo’n gyfforddus i ofyn cwestiynau fel: ‘Wyt ti’n iawn?’, ac ‘Wyt ti eisiau siarad am y peth?’

Nid yw bob amser yn hawdd siarad am iechyd meddwl, ond mae Diwrnod Amser i Siarad wedi wedi creu amrywiaeth o adnoddau sy’n addas ar gyfer eu defnyddio yn y gweithle, mewn ysgolion ac mewn grwpiau cymunedol er mwyn lledaenu’r neges o ran pa mor bwysig yw hi i gyfathrebu am iechyd meddwl a llesiant.

 

Gwneud Amser i Siarad

Pan ydych chi’n gwybod beth i’w ddweud, mae siarad yn dod yn hawdd. Dyma nifer o syniadau ar gyfer cychwyn sgwrs ar gyfer y bobl hynny sy’n chwilio am help a’r rheini sydd eisiau ei roi.

 

 

 

Gallwch hefyd ddysgu mwy am sut i siarad â’r rheini sy’n dioddef, neu’n mynd trwy gyfnod anodd gyda’u hiechyd meddwl, drwy hyfforddi fel swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl MHFA CymruYma yn MHFA Cymru, rydyn ni’n hyfforddi hyfforddwyr cymorth cyntaf iechyd meddwl mewn nifer o ddisgyblaethau fel eu bod yn gallu mynd allan i ddysgu gweithleoedd, ysgolion a chymunedau sut i gysuro a siarad â’r bobl hynny sydd angen y cymorth hwn fwyaf.

 

I ddarganfod mwy amdanom nia’r mathau o hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu, neu i drefnu cwrs drwy un o’n hyfforddwyr trwyddedigewch i’n gwefan a buddsoddwch yn eich llesiant chi ac yn iechyd meddwl y rheini o’ch cwmpas

cy
0
    0
    Your Basket
    Your basket is emptyReturn to Shop